Llyfrau a chyhoeddiadau o The Cidron Press ac Adastra Publishing

Mae ein hargraffnod, The Cidron Press, yn cyhoeddi llyfrau gan Jonah Jones neu lyfrau sy’n ymwneud â’r artist. Rydym ni hefyd yn dosbarthu amrywiaeth o deitlau a roddwyd i Scene & Word gan Oriel Plas Glyn-y-Weddw a dau o gyn-gyhoeddwyr Jonah, Seren Books ac Y Lolfa.

Mae’r rhestr yn cwmpasu sawl agwedd ar fywyd rhyfeddol Jonah Jones fel un o brif artistiaid Cymru ar ôl y rhyfel, gan gynnwys sawl enghraifft o’i allgynnyrch fel awdur cyhoeddedig.

Wedi’i ddylunio gan Wasg Gregynog, mae ein prif gyhoeddiad, The Gregynog Journals, yn seiliedig ar nodlyfr dyddiol Jonah. Ysgrifennwyd y nodlyfr â llaw gan Jonah, gan hefyd cynnwys darluniau helaeth ganddo. Fe ddechreuodd Jonah gadw nodlyfrau yn ystod ei flwyddyn fel artist preswyl yn Neuadd Gregynog, Prifysgol Cymru ym Mhowys, ac aeth ymlaen i’w cadw yn gyson am weddill ei oes. Credai y dylai pob artist gadw nodlyfr dyddiol i gofnodi, mewn geiriau a brasluniau, yr hyn yr oeddent wedi’i weld a’i feddwl. Mae ei nodlyfrau’n rhoi cipolwg dwfn ar beth oedd bod yn artist. Maent yn hynod ddiddorol, yn fywiog, yn farddonol ac idiosyncratig ar adegau, ac yn aml yn llawn hiwmor ac angerdd. Fel lawrlwythiad am ddim, rydym yn ddiweddar wedi ychwanegu The Venice Journals – cofnod o’i ymweliad byr â Fenis ym 1994.

O Seren Books rydym yn dod â thri theitl. Roedd dau ohonynt wedi’u hysgrifennu gan Jonah: The Gallipoli Diary, casgliad o draethodau yn myfyrio ar ei fywyd a sut y lluniodd egwyddorion, ffynonellau a dylanwadau ei ymarfer fel artist; a Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector, detholiad agos o lythyrau amser rhyfel gan Jonah at ei fentor a’i ddarpar bartner Mona Lovell. Y trydydd, a gyhoeddwyd yn 2011, yw bywgraffiad wedi’i ysgrifennu’n gain gan Peter Jones, Jonah Jones: An Artist’s Life.

Yn cwblhau rhestr Cidron Press mae trydydd argraffiad o’r Lolfa o deithlyfr clasurol i gerddwyr gan Jonah, The Lakes of North Wales, a chatalog Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi’i ddylunio a’i gynhyrchu’n hyfryd ar gyfer yr arddangosfa ganmlwyddiant a gynhaliwyd yn yr oriel yn 2019.

Teitl lansio ein hargraffnod newydd, Adastra Publishing, sy’n canolbwyntio ar waith artistiaid Cymreig byw, yw Line Red to Space / The Magnitude is Green, bywgraffiad Terry w Scales wedi’i ddarlunio’n hyfryd.

Cliciwch ar unrhyw ddelwedd isod, neu dewiswch un o’r canlynol:

Clawr meddal | Clawr caled | E-lyfrau