Ffotograffiau: Oriel Plas Glyn-y-Weddw.
Mae Scene & Word yn gwmni di-elw gydag amcanion elusennol, a sefydlwyd yn 2006 gan deulu a chyfeillion Jonah Jones (1919–2004) i ddatblygu a rheoli Cofio Jonah Jones, prosiect i ddathlu a chofnodi ei fywyd a gyrfa gan adeiladu ar ei werthoedd fel artist ac addysgwr.
O ystyried y gwerthoedd hyn, ein bwriad yw cefnogi artistiaid/gwneuthurwyr ifanc dethol trwy ddyfarnu gwobr ariannol neu ffioedd am gynnal gweithdai trwy ein cynllun Gwobr Jonah Jones. Rydym hefyd yn ymdrechu i ddiogelu gwaith cyhoeddus Jonah Jones, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o’r artist trwy guradu oriel ar-lein o’i waith: Oriel Jonah Jones.
Dilynwch Scene & Word ar ein gwefan, Facebook ac Instagram. Gallwch ysgrifennu atom trwy’r ddolen Cysylltu ar waelod y sgrin.