Gwobr Jonah Jones
Mae Gwobr Jonah Jones yn gynllun gwobrwyo ar gyfer artistiaid ifanc. Rydym yn codi arian ar ei gyfer trwy roddion a gwerthiannau di-elw o Siop Scene & Word. Trwy’r cynllun fe wnaethom gyfrannu at Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 lle enillodd Shauna Taylor y categori Canmoliaeth Uchel. Yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 cefnogodd y gronfa gyfres o weithdai yn Y Lle Celf mewn disgyblaethau sy’n gysylltiedig â gwaith llythrennu a gwydr Jonah Jones, dan ofal y gemydd/crefftwr Beca Fflur.
Arbed gweithiau celf cyhoeddus
Mae Scene & Word yn ymgyrchu i achub gweithiau celf cyhoeddus pwysig gan Jonah Jones sydd mewn perygl o draul neu gael eu dinistrio. Buom mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe i gefnogi Esgobaeth Gatholig Wrecsam mewn prosiect gwerth cyfanswm o £66,000 i adfer ac adleoli deuddeg ffenestr dalle de verre gan Jonah Jones o eglwys gaëedig ym Morfa Nefyn, Llŷn, i Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug. Rydym yn parhau i ymgyrchu am gartref newydd yng Nghymru ar gyfer ei gerflun wal enfawr, Y Bont, sy’n dal i gael ei storio ar ôl ei symud o’i safle gwreiddiol yng Ngholeg Harlech. Un o’n cyfarwyddwyr yw Alun Adams, arbenigwr cadwraeth blaenllaw a chyn Gydlynydd y CGP.
Arddangosfeydd
Mae Scene & Word yn cefnogi orielau celf wrth drefnu arddangosfeydd o waith Jonah Jones. Yn 2013 buom yn helpu i guradu ‘Y Gair’, arddangosfa ôl-syllol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Yn 2019 buom yn gweithio’n agos gydag Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, ar sioe ganmlwyddol fawr, gan gyfrannu’n helaeth o’n casgliadau preifat. Mae arysgrifau dyfrlliw wedi cael eu harddangos yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin, a Neuadd Gregynog, Tregynon, y Drenewydd.
Oriel ar-lein
Mae Oriel Jonah Jones ar wefan Scene & Word yn casglu, dosbarthu, arddangos ac egluro ei waith trwy gydol ei yrfa: cerfluniau, gwydr, paentiadau, arysgrifau, mosaigau a chyfryngau eraill.
Llyfrau a phrintiau
Mae Scene & Word yn cyhoeddi llyfrau, printiau, cynnwys digidol a chyfryngau eraill gan neu am Jonah Jones. Roedd ein set casglwyr argraffiad cyfyngedig, An Artist’s Life in Wales, yn cynnwys llyfr wedi’i rwymo â llaw, tri phrint dyfrlliw maint llawn, a CD-ROM o ddeunyddiau digidol prin a ffilmiau teledu. Ar hyn o bryd mae ein rhestr yn cynnwys llyfrau, printiau a chardiau, i gyd ar gael trwy Siop Jonah Jones. Yn ddiweddar lansiwyd argraffnod newydd, Adastra Publishing, i gwmpasu gwaith artistiaid cyfoes Cymreig.
Creu cynnwys
Mae Scene & Word yn creu ac yn cyfrannu cynnwys gwreiddiol am Jonah Jones ar gyfer cyhoeddwyr, teledu a radio. Un o’n cyfarwyddwyr, ei fab Pedr Jones, oedd awdur y cofiant Jonah Jones: An Artist’s Life a golygydd casgliad o lythyrau adeg y rhyfel, Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector. Mae Pedr a chyfarwyddwyr eraill yn cyfrannu’n aml at ddarllediadau teledu a radio gan y BBC ac S4C.
Sgyrsiau a darlithoedd
Mae Scene & Word yn croesawu gwahoddiadau i siarad yn gyhoeddus am Jonah Jones. Mae ei fywgraffydd Pedr Jones wedi darlithio ym Mhrifysgol Bangor, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Merched y Wawr, Oriel Plas Glyn-y-Weddw a mannau eraill.
Archifo
Mae Scene & Word wedi rhoi deunyddiau archifol pwysig yn ymwneud â Jonah Jones i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Ffotograffiau, o’r brig: Canolfan Gwydr Pensaernïol, Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Arbed gweithiau celf cyhoeddus); Oriel Plas Glyn-y-Weddw (Arddangosfeydd; Sgyrsiau a darlithoedd); Stephen Brayne (Llyfrau a phrintiau).