O oedran cynnar ’roedd Jonah yn ddarllenwr brwd. Ar ôl iddo ennill swydd yn llyfrgell gyhoeddus Felling yn 1936, cafodd ei hun “plunged into the world of books. Here lay riches indeed, which would nourish my inner life thereafter.”1 ‘Roedd ei lwyddiant mewn cystadleuaeth ysgrifennu traethawd fel bachgen ysgol yn arwydd cynnar o’i ddawn gyda geiriau. Enillodd le yn Ysgol Uwchradd Sirol Jarrow (ysgol ramadeg yn ddiweddarach) ar ôl iddo basio arholiadau ysgoloriaeth olynol, lle cafodd addysg a’i osododd ar ei ffordd i fyd dysgu, diwylliant a chreadigrwydd.
Trwy gydol ei fywyd fel oedolyn bu’n darllen ac ysgrifennu yn ddyddiol. Roedd yn hoff o recordio a myfyrio ar ddigwyddiadau, mewnwelediadau a heriau ei fywyd bob dydd. Gwelir ei fyfyrdodau mewn llythyrau sylweddol at ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr, a ysgrifennwyd fel arfer yn ei italig mynegiannol a darllenadwy, neu weithiau eu pwnio braidd yn fras ar deipiadur. Yn y cyflwyniad i Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector2 (gohebiaeth estynedig rhwng Jonah fel gwr ifanc a’i fentor o Grynwraig, y llyfrgellydd Mona Lovell), mae’r golygydd, Peter Jones, yn disgrifio Jonah fel “a great letter writer all his life, both in the sense of quantity and quality.”
Fel artist dechreuodd Jonah mewn oed gofnodi’r argraffau beunyddiol hyn yn fwy systematig yn ei ddyddiaduron, yn aml gyda brasluniau mewn unrhyw gyfrwng a ddaeth i law. Maen nhw’n ddogfennau hynod ddiddorol, yn llawn bywyd a chreadigrwydd, yn lliwgar, yn fewnblyg o bryd i’w gilydd, yn aml yn ffraeth. Cyhoeddwyd detholiad o rai o’r cyfnodolion niferus sydd wedi goroesi yn 2010 gan Scene & Word yn The Gregynog Journals3.
Ond pa mor helaeth a mynegiannol ydynt, materion preifat yw llythyrau a dyddiaduron. Bu angen argyfwng dwys mewn bywyd i Jonah wneud y naid i ysgrifennu estynedig ar gyfer cynulleidfa briod. Ym 1977 cymerodd swydd pedair blynedd fel cyfarwyddwr y Coleg Celf a Dylunio Cenedlaethol yn Nulyn. Roedd hyn yn golygu “the loss of the opportunity to create… ‘Unable to actually create, draw, make sculpture, I was afflicted with an inward illness.’”4 Un noson, mewn anobaith, dechreuodd ysgrifennu’n fyrbwyll, “page after page. I found it exciting…” Y noson nesaf, wrth ailddarllen ei ymdrech, taflodd Jonah y cyfan mewn dirmyg o “such unbelievable trash”.5 Ond dychwelodd ato gydag “growing obsession”, ac allan o’r holl gythrwfl hwn daeth ei nofel gyhoeddedig gyntaf, A Tree May Fall6.
Yn ystod ei oes cyhoeddodd bum llyfr. Roedden nhw’n cynnwys ail nofel, Zorn7; arweinlyfr i gerddwyr, The Lakes of North Wales8; casgliad o draethodau hunangofiannol, The Gallipoli Diary9; a bywgraffiad o’i gyfaill a noddwr Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion10. Roedd hyn oll yn gamp drawiadol fel atodiad i yrfa lawn amser fel artist proffesiynol, gan gynnwys tri degawd o wasanaeth cyhoeddus heb ei dalu ar y cyfan.
Nodiadau
- Dyfynnwyd yn Jonah Jones: An Artist’s Life (Peter Jones). Seren Books/Cidron Press, 2011.
- Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (golygwyd gan Peter Jones). Seren Books/Cidron Press, 2018.
- The Gregynog Journals (Jonah Jones). Scene & Word/Cidron Press, 2010.
- Llythyr gan Jonah Jones at Cary Archard, 1974.
- Jonah Jones: An Artist’s Life. Ibid.
- A Tree May Fall (Jonah Jones). Bodley Head, 1980.
- Zorn (Jonah Jones). William Heinemann Ltd, 1987.
- The Lakes of North Wales (Jonah Jones). Whittet Books/Cidron Press, 1983.
- The Gallipoli Diary (Jonah Jones). Seren Books/Cidron Press, 1989.
- Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion (Jonah Jones). Seren Books, 1997.
Samplau o waith Jonah fel awdur
Llythyr o Wensleydale (1943): Llythyr gan Jonah, 23 oed, at ei ffrind Mona Lovell yn disgrifio taith gerdded yn Wensleydale yng nghwmni ei gyd-artistiaid Fred Lawson a Muriel Metcalfe.
Diweddglo i ‘Tide-race’ gan Brenda Chamberlain (1986): Cyhoeddwyd Tide-race, sef cofnod clasurol gan yr artist, bardd ac awdur Brenda Chamberlain (1912–1971) o fywyd ar Ynys Enlli, ym 1962. Yn 1986 cyhoeddodd Seren Books argraffiad ohoni yn eu cyfres o Glasuron. Comisiynwyd Jonah, ei ffrind a’i chyd-artist, i ysgrifennu’r ’diweddglo’ hwn.
O The Gallipoli Diary (1989): Rhan o gasgliad traethodau gan Jonah yw cyfres o atgofion i’r ‘eccentrics’ a oedd yn gymdogion iddo, gan gynnwys rhai ffrindiau agos, ar benrhyn Portmeirion. Mae’r cyflwyniad hwn yn gosod y cefndir.
Ynglŷn ag addewid toredig Rwsia i Wcráin, o ddyddiadur Jonah (1991): nodyn rhagweladwy am Rwsia anffyddlon – “the world’s biggest pain in the arse”.
‘Not for cissies’ (2003): Ysgrifennodd Jonah ambell gerdd, fel arfer yn eu troi’n arysgrifau dyfrlliw. Arwyddwyd yr un yma Scripsit/Pinxit Jonah Aetat 84 (ysgrifennwyd a phaentiwyd gan Jonah, 84 oed).
