Jonah Jones

Ganed Jonah Jones (17 Chwefror 1919–29 Tachwedd 2004) yng ngogledd ddwyrain Lloegr, ond roedd yn cael ei adnabod fel cerflunydd, awdur ac artist-crefftwr Cymreig. Bu’n gweithio mewn sawl cyfrwng, ond fe’i cofir yn arbennig fel cerflunydd mewn carreg, torrwr llythrennau, gwneuthurwr gwydr a pheintiwr arysgrifau cain.

Bywyd

Ganed Jonah Jones ym 1919 ger Wardley, Tyne a Wear, yr hynaf o bedwar o blant. Leonard Jones oedd ei enw bedydd. Roedd ei dad yn ddyn lleol a oedd wedi bod yn löwr cyn cael ei glwyfo yn y Rhyfel Byd Cyntaf; daeth ei fam o Swydd Efrog.

Cafodd ei gofrestru yn yr Ail Ryfel Byd fel gwrthwynebydd cydwybodol, cyn iddo ymuno yn ddiweddarach â’r Fyddin Brydeinig fel un nad oedd yn ymladd. Gwasanaethodd yn 224 Parachute Field Ambulance, o fewn y 6th Airborne Division, gan gymryd rhan yn ymgyrch Ardennes a’r awyrlif dros Afon Rhein yn Wesel ym mis Mawrth 1945.

Yn dilyn ei ryddhau o’r fyddin ym 1947, dechreuodd gyrfa Jonah Jones yng Ngogledd Cymru yng Ngwasg y Gaseg gyda’r arlunydd John Petts, ac yn fuan wedyn bu’n hyfforddi am gyfnod byr, dwys yng ngweithdy’r diweddar Eric Gill, lle dysgodd dechnegau llythrennu a cherfio mewn carreg. Yn ystod y 1950au sefydlodd Jonah Jones gweithdy llawn amser, fel un o’r ychydig iawn yng Nghymru ar y pryd a oedd yn gallu ennill bywoliaeth o gelf yn unig.

Celf

Bu Jonah Jones yn gweithio mewn sawl cyfrwng, ond gwnaeth ei farc fel cerflunydd mewn carreg, torrwr llythrennau a pheintiwr llythrennau gwerinol. Astudiodd dechnegau traddodiadol gwydr lliw a phlwm a’r rhai mwy newydd o wydr concrit a dalles-de-verre. Peintiodd mewn dyfrlliw, cyfrwng lle bu hefyd yn cynhyrchu corff nodedig o waith yn seiliedig ar arysgrifau gwerinol, techneg y bu’r arlunydd a’r bardd David Jones yn ddylanwad mawr arni. Ysgrifennodd hefyd ddwy nofel gyhoeddedig, llyfr o ysgrifau naws hunangofiannol, llyfr darluniadol am lynnoedd Gogledd Cymru, a bywgraffiad Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion.

Ffotograffiau: Stephen Brayne (cyntaf a thrydydd); yr artist (yr ail).

Roedd comisiynau cyhoeddus mawr Jonah Jones yn cynnwys gwaith i gapeli Coleg Ratcliffe, Swydd Gaerlŷr; Coleg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog; a Loyola Hall, Rainhill, Glannau Merswy; eglwys Gatholig Sant Padrig, Casnewydd, Mynwy; Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd; Coleg Harlech, Gwynedd; a Llys y Goron yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Gwasanaeth cyhoeddus

Daeth o hyd i amser, hefyd, i weithio ym maes addysg celf. Rhwng 1960 a 1971 roedd yn aelod o’r NCDAD (National Council for Diplomas in Art and Design). Dan gadeiryddiaeth Syr John Summerson, gweithredodd yr NCDAD y system Dip AD (diploma mewn celf a dylunio) a sefydlwyd gan y NACAE (National Advisory Council on Art Education), a oedd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar ddiwygio strwythur addysg celf a dylunio. Am flynyddoedd lawer wedyn bu’n aseswr allanol i lawer o golegau celf ledled y DU. Rhwng 1974 a 1978 bu’n brifathro Coleg Celf a Dylunio Cenedlaethol Dulyn ac yn gyfarwyddwr Kilkenny Design Workshops.