
… prosiect parhaus i gatalogio ac arddangos gwaith Jonah Jones mewn casgliad ar-lein ddiffiniol. Yn ystod ei oes sonid yn fynych amdano fel cerflunydd a thorrwr llythrennau, ond roedd gan ei waith llawer o agweddau eraill. Yn Oriel Jonah Jones gwelwn hyd a lled y sgiliau hyn mewn cyfryngau a dimensiynau gwahanol. Roeddent yn cwmpasu gwydr pensaernïol, dyfrlliwiau, llythrennu, penddelwau efydd, mosaigau ac amryw ffurfiau eraill.
Rhennir y gwaith rhwng chwe adran ac mae gan bob adran ddwy ‘ystafell’ neu fwy. Cliciwch neu tapiwch lun isod i ddechrau archwilio.
GWAITH COLL Aeth llawer o waith Jonah Jones i gasgliadau preifat. Tra’n gweithio yn Nulyn yn 1976, bu lladrata o’i gartref ar rent yna a chafodd albymau unigryw o’i waith eu dwyn. Gadawodd hyn fylchau mawr yn ein gwybodaeth o i ba le yr aeth ei waith. Os oes gennych rywbeth gan Jonah Jones (cyn neu ar ôl 1976) efallai nad ydym yn ymwybodol ohono, ysgrifennwch atom os gwelwch yn dda i contact@sceneandword.org. Gallai fod yn ‘waith coll’…

Coleg Ratcliffe, Swydd Gaerlŷr
Eglwys Sant Padrig, Casnewydd
Coleg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog
Eglwys Sant John Fisher, West Heath, Birmingham
Eglwys Merthyron Lloegr, Rugby
Neuadd Rainhill, Glannau Merswy
Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug
Ysbyty Cyffredinol Llandudno
Eglwys Sant Ioseff, Dinbych
Ffotograff: Stephen Brayne





