ARYSGRIFAU MAEN

Oriel Jonah Jones logo
arisgryf carreg gan Jonah Jones

O ddechrau ei yrfa, sylweddolodd Jonah na fyddai’n gallu gwneud bywoliaeth o gelf greadigol yn unig. Oherwydd hyn roedd angen iddo astudio nid yn unig technegau cerfio maen, ond hefyd torri llythrennau cain. Roedd yn deall bod yna gleientydd a oedd yn casau gwaith seiri maen coffa ac yn chwilio am “something classical, dignified and beautiful, because an inscription can be a work of art, or it can be a horror”. 

Dysgodd Jonah sgiliau torri llythrennau yn ystod prentisiaeth fer chwe wythnos yn gynnar yn 1950 yn hen weithdy Eric Gill yn Pigotts, Swydd Buckingham. Laurie Cribb, hoff gynorthwywr Gill, oedd ei diwtor (roedd Gill ei hun wedi marw rhyw ddeng mlynedd ynghynt). Byddai Cribb yn ei dro yn dod yn gynorthwywr i Jonah rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

arisgryf llechen gan Jonah Jones

Roedd torri llythrennau yn darparu sylfaen cyson ar gyfer gyrfa annibynnol Jonah fel artist a chrefftwr. Dros hanner canrif cynhyrchodd ei weithdy lif parhaol o arysgrifau cain ar gyfer safleoedd ledled Cymru a Lloegr (ac o bryd i’w gilydd y tu hwnt), rhai ohonynt yn brosiectau o fri. Cymhwysodd hefyd y dechneg o arysgrifennu maen i wneud delweddau, yn ogystal â cherfio cerfweddi isel.