CERFLUNIAU

Oriel Jonah Jones logo

Yn ei henaint, wrth asesu gwaith ei oes, daeth Jonah Jones i’r casgliad ei fod wedi dilyn tair yrfa wahanol, ond cysylltiedig: fel cerflunydd, addysgwr celf a llenor. Teimlodd ei fod wedi gwneud ei brif gyfraniad i’r celfyddydau trwy gerfluniaeth, a ‘does dim dwywaith amdani ei fod wedi dangos y creadigrwydd a gallu amryddawn mwyaf yn y maes hwn.

Cerflun gan Jonah Jones

Gellir cyfrif Jonah o bosib ymysg y genhedlaeth olaf o gerflunwyr a oedd yn gweithio’n bennaf trwy gyfrwng maen. Ystyriodd ei hun ar yr un pryd fel artist a (fel mab i lowr) fel labrwr, ac ymhyfrydodd mewn gwaith corfforol cerfio maen.

Cerflun gan Jonah Jones

Mewn cyd-destun gwahanol, ysgrifennodd ar un adeg “the skill of hand is an amazing factor in happiness”. Yn ei dyb ef nid oedd ymraniad rhwng y cysyniad yr oedd yn gweithio arno a’r gwaith caled o roi ffurf i’r garreg.

Cerflun gan Jonah Jones

Pa fodd bynnag, nid maen yn unig yr oedd Jonah yn ei gerfio. Gwnaeth rhywfaint o gerfluniaeth mewn pren, ar ôl iddo ddysgu’r dechneg gyda Peter Thorp, gyfaill hŷn a’i helpodd i ddechrau ar ei yrfa fel cerflynydd. Cynhyrchodd hefyd gyfres o weithiau bychain mewn metel. Esblygodd ei arddull o’r ffiguraidd clasurol i’r haniaethol. Gweithiau cyhoeddus yw rhai o’i ddarnau gorau (ac yn sicr y mwyaf o ran maint), sydd i’w gweld o amgylch Cymru a Lloegr.