










Ar ôl iddo dreulio bron i wyth blynedd yn gweithio tu allan i Ogledd Cymru (cyfnod pan nad oedd e’n gallu creu ond ychydig iawn o gerfluniau), cafodd Jonah cryn anhawster wrth ailgydio yn ei hen alwedigaeth wedi iddo ddychwelyd adre ym 1982. Ar y dechrau ‘roedd ei gynnyrch yn ysbeidiol, ac roedd yn dal i dreulio llawer o’i amser yn llenydda. Ymrywiodd ei driniaeth ymysg y darnau a greodd dros y degawd hwn, gan gynnwys dychweliad i gerfio ffigurol ar y cyd â gwaith haniaethol.
Mwynhaodd Jonah flodeuo hwyr o gerfluniaeth cerfiedig grymus ym 1987–89, a arweiniodd at rai o’i weithiau gorau, gyda darnau mentrus, llawn hyder a chryfder mewn cysyniadaeth a chyflawniad. Gyda’i gymysgiad o arddulliau a themau mae’r grŵp yma megis crynhoad o hanfod ei fywyd fel cerflunydd. Terfyn teilwng oedd hwn i yrfa Jonah fel cerflunydd maen. O hyn ymlaen, byddai arthritis yn ei rwystro rhag gwneud mwy o waith creadigol yn ei hoff gyfrwng.
