
Cliciwch neu dapiwch unrhyw lyn isod i ddechrau gweld yr arddangosfeydd.













Parhaodd cerflunwaith Jonah Jones yn ystod y 1970au cynnar â’r tueddiadau yr oedd wedi gosod y degawd blaenorol. Roedden nhw’n cyfuno llechi a marmor gan fwyaf, yn aml wedi’u ffurfio â llif. Roedd y gweithiau hyn yn adlewyrchu ei edmygedd o ddau o gerflunwyr mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, sef Constantin Brăncuşi ac Isamu Noguchi. Yn fwy nag erioed mythau’r Mabinogi a thirwedd Gwynedd oedd ei ysbrydoliaeth.
O Hydref 1974 tan ddiwedd 1978 roedd Jonah yn gweithio yn Nulyn, a bu’n rhaid iddo atal ei yrfa greadigol trwy’r cyfnod. Pan ddychwelodd i Gymru trodd ei law at ysgrifennu ffuglen; am weddill y ddegawd dim ond un neu ddau o gerfluniau a wnaeth.
