Y Neges

Y Neges, concrid bwrw, cerigos Afon Wnion a phaent, 1974. Ysgol y Gader, Dolgellau (ddinistriwyd). Ffotograff: Robert Greetham.

[Ym 1974] unwaith eto, arloesodd Jonah gynllun, ‘Artists in Schools’ (‘Artistiaid mewn Ysgolion’), ar gyfer Cymdeithas Gelf Gogledd Cymru. Gweithiodd gyda disgyblion Ysgol y Gader yn Nolgellau i gynhyrchu cerflun. Dychwelodd at ail gainc y Mabinogi, Branwen Ferch Llyr, am ysbrydoliaeth.

Disgrifiodd y gwaith mewn llythyr at ffrindiau: “Rwy’n defnyddio hyd llain o lawnt (mewn gwirionedd, mae’n 20 llathen o bolyn i bolyn) – mae dwy ran, un yn anfon – y llall yn derbyn. Y Neges yw ei deitl, ac er derbyn sylwadau ei fod yn haniaethol, atgof o Branwen druan ydyw, dan warchae yn Iwerddon, yn cael ei thrin mor greulon, a’r unig fodd iddi allu derbyn cymorth yw trwy hyfforddi aderyn i gludo llythyr drosti at ei cheraint urddog yng Ngwynedd. Felly, dengys un ochr ffurf grychdon wen yn anfon arch du. Mae gan yr ochr arall rhyw fath o deildy neu deml fechan o 7 colofn, lle gwelir siâp adain blyg yn cyrraedd yn eu canol.”

Dan oruchwyliaeth Jonah, castiodd y myfyrwyr yr elfennau cyfansawdd mewn concrid, cyn eu gosod ar lawnt a’u paentio (gwyn ar gyfer Branwen, gwyn yn graddliwio i frown ar gyfer y ceraint, a du ar gyfer y ddrudwen). Palmentwyd o amgylch sylfaen y ddwy uned â cherrig o wely Afon Wnion.

Megis cynifer o weithiau cyhoeddus Jonah, nid yw Y Neges wedi goroesi; y cwbl sydd ar ôl heddiw yw llain unig o gerigos.

Testun gan Peter Jones o’r catalog ar gyfer yr arddangosfa canmlwyddiant yn 2019 yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw.

Disgyblion Ysgol y Gader Dolgellau yn gweithio ar y cerflun.