Hedd Dros Wynedd

Hedd Dros Wynedd, llechen a marmor Carrara, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, 1972 (dinistriwyd 2002). Ffotograffau: Robert Greetham.

Comisiynwyd trydydd mur-cerflun Jonah ar gyfer cyntedd pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Roedd y darn hwn, s’yn mesur rhyw 7 troedfedd o uchder a 15 troedfedd o led, yn glir yn ei symbolaeth. Bu Jonah’n asesu yng Ngholeg Celf Belffast, gan dystio effaith yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon. Pryd bynnag y byddai’n hedfan o Lerpwl i’r dalaith, byddai’n rhyfeddu gyda’r cyferbyniad rhwng yr heddwch ym mryniau brith-gymylog Cymru i’w chwith a’r tensiynau a ddarganfu yn Melffast.

Mewn cyfeiriadaeth i hyn, ac i rôl yr heddlu mewn cynal heddwch, galwodd y darn Hedd Dros Wynedd gan seilio’i ddelweddaeth ar fap cynlluniedig o Ogledd Cymru. Ffurfiwyd y tir o slabiau llechen las, y darnau o fôr o lechen wyrdd, garw Bethesda. Cynrychiolwyd y bryniau a’r mynyddoedd gan dafellau o lechen las mewn ceibren yn wynebu fyny er mwyn adleisio gorweddiad y “map” gwaelodol; wedi’i arosod ar hwn cafwyd gwrthbwynt aden fas o siapiau marmor gwyn yn dynwared banc o gymylau. Arwyddi hefyd drefi, cestyll, cylchoedd cerrig a mannau sanctaidd yn ddamcaniaethol gan ffurfiau marmor.

Gwnaeth y delweddau hawdd, hygyrch y gwaith yn boblogaidd. Ond yn 2002, penderfynodd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ailwampio’r ardal a thaflodd eu contractwyr y mur-gerflun cyfan i sgip.

(Cyfieithiad: Awen Schiavone.)

Ar gael fel print ffotograffig o’r Siop Jonah Jones (dolen).