Disgrifiad
Jonah Jones – printiau ffotograffig o cerflyn wal ‘Hedd Dros Wynedd’, Bae Colwyn
’Roedd y cerflun wal llechen a marmor Carrara Hedd Dros Wynedd a grëwyd gan Jonah Jones ym 1972 ar gyfer Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn yn un o’i gomisiynau mwyaf, yn ail o ran maint yn unig i’r cerfun Y Bont yng Ngholeg Harlech. Fe’i ddinistriwyd yn drychinebus yn 2002 yn ystod gwaith adnewyddu gan adeiladwyr, a rwygodd ei lawr heb ymgynghori a’i anfon i safle tirlenwi.
Comisiynodd Scene & Word Leah Rolando, ffotograffydd o Dde Affrica, i ddatblygu ystod o bum triniaeth o ffotograff gwreiddiol gan Robert Greetham. Gofynnwyd iddi ddefnyddio lliwio cynnil a golygu deinamig i awgrymu y profiad o edrych ar y cerflun yn agos ato.
A3 (29.70 cm x 42.00 cm) heb ei fowntio, print ffoto ar Universal Photo Paper 200 GSM.
Mae pum opsiwn ar gael:
‘Dramatic Cool’ 
‘Radiate’ 
‘Cool Light’ 
‘Golden’ 
‘Composite’ 
Mae’r prisiau yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.









