CD-ROM: JONAH JONES: AN ARTIST’S LIFE IN WALES

£12.00

Adnodd digidol gweledol iawn am Jonah Jones, gan gynnwys ffilmiau teledu prin.

24 mewn stoc

Categori: Tag:

Disgrifiad

Adnodd digidol cyfoethog am Jonah Jones a luniwyd yn 2010 gan Scene & Word, yn cynnwys:

Casgliad o ‘gelfyddyd gysegredig’ nas gwelir yn aml yn dangos amrywiaeth rhyfeddol ei waith yng nghapeli ac eglwysi Catholig Cymru a Lloegr; enghreifftiau pwysig o’i gomisiynau celf cyhoeddus; a llawer o ffotograffau gan Stephen Brayne a Robert Greetham o’i gerfluniau, gwydr, arysgrifau, mosaigau a gwaith mewn cyfryngau eraill.

Teyrngedau personol a choffadwriaethau gan ffrindiau, cydweithwyr a theulu, gyda ffotograffau hanesyddol a chofebau, a rhaglenni teledu prin yn cynnwys Jonah Jones.

Rhaglen ddogfen fer ar y broses o greu a dadorchuddio carreg goffa Jonah Jones ym Mhortmeirion yn 2006, lle traddododd Jan Morris (1926–2020) y brif araith.

Ac eitemau unigryw eraill.

Mae’r pris yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.