Cynhyrchion eraill o Siop Jonah Jones

Mae ein gwyddor A3 poblogaidd, mewn fersiynau Saesneg neu Gymraeg, wedi’i seilio’n unigryw ar Alphabetum Romanum Jonah, a baentiwyd â llaw gan Jonah ac a ddarganfuom mewn llyfr braslunio bach.

Er ei fod yn hen ffasiwn erbyn hyn, mae’r CD-ROM a luniwyd yn 2010 yn parhau i fod yn drysorfa o atgofion Jonah Jones. Mae’n cynnwys teyrngedau personol a choffadwriaethau gan ffrindiau, cydweithwyr a theulu, a rhaglen ddogfen fer am y broses o greu a dadorchuddio carreg goffa Jonah Jones ym Mhortmeirion yn 2006, lle tradoddodd Jan Morris (1926–2020), yr awdur Cymreig a ffrind Jonah a Judith, y brif araith.

Mae tri phecyn hardd o gardiau cyfarch yn cwblhau’r ystod, gan ddefnyddio delweddau o’n casgliad helaeth o wydr lliw a pheintiadau dyfrlliw Jonah.

Cliciwch ar unrhyw ddelwedd isod, neu dewiswch un o’r canlynol:

Posteri | Cardiau cyfarch | CD-ROM