Disgrifiad
Oddeutu’r flwyddyn 1990, cymerodd Jonah Jones lyfr braslunio bach gan baentio gwyddor ryfeddol mewn dyfrlliw, un llythyren ar bob tudalen. Nes ymlaen gadawodd e i’w wyrion i’w fwynhau. Fe wnaethom ddigido’r lythrennau er mwyn creu posteri o’r wyddor gyflawn yn Gymraeg a Saesneg. Ar wynebddalen y llyfr braslunio ’roedd Jonah wedi paentio’r teitl Alphabetum Romanum Jonah – cafodd hwn ei ddigideiddio hefyd er mwyn ei ddefnyddio fel teitl y ddwy wyddor.
Mae’r ddwy wyddor yn bosteri A3 mewn mowntiau cerdyn (37 cm x 50 cm) neu heb fowntio (29.70 cm x 42.00 cm).
Mae’r prisiau yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.







