Print ffotograffig: CORON DDRAIN

£37.00

Print ffotograffig yn seiliedig ar ffenestri dalle de verre gan Jonah Jones ar gyfer eglwys y Merthyron Saesneg yn Hillmorton, Rugby (wedi’i dinistrio).

5 mewn stoc

Disgrifiad

Print ffotograffig o ffenestri dalle de verre ‘Coron Ddrain’ gan Jonah Jones yn Rugby

Creodd Jonah Jones bedair ffenestr fawr yng nghanol y 1960au i fynd o dan gromen Eglwys Gatholig newydd y Merthyron Seisnig, Hillmorton, yn Rugby, Swydd Warwick. Gyda thema’r goron ddrain, roedd pob ffenestr dalle de verre (gwydr slab) yn mesur tua 9 medr o hyd a thua 3.5 medr o uchder.

Yn anffodus oherwydd gwall pensaernïol roedd y matrics strwythurol ar gyfer y ffenestri yn annigonol. O ganlyniad roedd y paneli isaf yn dueddol o gael eu malu gan bwysau’r rhai uwchben. Blynyddoedd yn ddiweddarach daeth dwy o’r ffenestri’n beryglus ac yn 2012 penderfynodd yr eglwys dynnu’r holl ffenestri allan. Ond, wedi’u pentyrru’n llorweddol yn lle yn fertigol, torrodd yr holl baneli a chwalodd y ffenestri.

Bu Scene & Word yn gweithio gyda Leah Rolando, ffotograffydd o Dde Affrica, i ddatblygu’r driniaeth ddramatig hon o ffotograffau gwreiddiol a dynnwyd gan Stephen Brayne ar ein cyfer yn 2009, pan oedd y ffenestri’n dal yn gyfan. Mae’n dangos y pedair ffenestr yn fertigol, gan fanteisio ar eu hymddangosiad trionglog nodedig i greu effaith coeden Nadolig.

A3 (29.70 cm x 42.00 cm) heb ei fowntio, print ffoto ar Universal Photo Paper 200 GSM.

Mae’r pris yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.