Catalog arddangosfa: ARDDANGOSFA CANMLWYDDIANT JONAH JONES

£5.00

Samplwr delfrydol o amrediad gyflawn o waith Jonah Jones.

17 mewn stoc

Disgrifiad

Oriel Plas Glyn-y-Weddw, 2019

Cidron Press logo

Roedd arddangosfa canmlwyddiant yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli yn 2019 yn dathlu Jonah Jones fel cerflunydd, llythrennwr, gwneuthurwr gwydr a pheintiwr dyfrlliw, gan gyflwyno enghreifftiau o’i waith trwy ei yrfa hir o’r 1940au i’r 2000au cynnar. Cyhoeddodd yr oriel gatalog darluniadol gwych gydag 80 tudalen, yn gosod yr arddangosion mewn trefn gronolegol fwy neu lai. Ysgrifennwyd y testun gan Pedr Jones, awdur y bywgraffiad Jonah Jones: An Artist’s Life, a lluniwyd y cynllun dwyieithog clir a chynnil gan Olwen Fowler.

Ciplun hyfryd o fywyd a gwaith Jonah, gyda 95 o ddelweddau lliw-llawn. Yn dilyn yr arddangosfa, rhoddodd Plas Glyn-y-Weddw yn garedig iawn rhan o eu stoc i The Cidron Press. O bob gwerthiant byddwn yn rhoi £1 i Plas Glyn-y-Weddw.

ISBN 978-0-9928178-8-6. Pris yn cynnwys cludiant yn y DU.