Disgrifiad
Pedr Jones – Seren, 2011
![]()
![]()
Cerflunydd, peintiwr, torrwr llythrennau, gwneuthurwr ffenestri gwydr lliw, nofelydd, addysgwr celf: mewn sawl ffordd roedd Jonah Jones yn ddyn hunanddysgedig o gyfnod y Dadeni yn yr Ugeinfed Ganrif. Ysgrifennodd ei fab a’i gofiannydd Pedr Jones, cyn-newyddiadurwr gyda’r BBC, a weithiodd yn ystod y 1970au fel torrwr llythrennau yng Ngweithdy Jonah Jones, yr adroddiad serchog ond gwrthrychol hwn o “stori sy’n haeddu cael ei hadrodd: sut y datblygodd y dyn, yr hyn a brofodd, ei gyflawniadau niferus.” Wedi’u wasgaru trwy’r testun y mae ffotograffau hanesyddol diddorol, ac y mae mewnosodiad lliw 16 tudalen. Rhagair gan Jan Morris.
Trosglwyddodd Seren yn garedig iawn gweddill eu stoc o’r llyfr i The Cidron Press.
279 tudalen. ISBN 978-1-85411-556-0. Pris yn cynnwys cludiant yn y DU.






