
Gŵr Corris, llechen a marmor Nabresina, 1974. Casgliad preifat.
Mae’r cyfuniad o Iechen a marmor yn neilltuol o lwyddiannus yn Gŵr Corris. Disgrifiodd Jonah ddechreuad y darn, a feirniadodd “yn rhagori mewn gwaith oes” mewn llythyr at ffrind ym 1990: “Mae’n un o’r rheiny sy’n f’atgoffa o foment mewn amser, dim ond cipolwg ên passant, o fugail ger Corris tra roeddwn fyny yno yn nôl Ilechi, yn rhwygo drwy un o’r ffensiau Ilechi sydd ganddynt yno, ar ôl rhyw ddafad ystyfnig, a meddyliais, am foment, am ei ddiamynedd, eu cyfrwystra, a’r ffens odidog yna gyda’r bwlch ynddo a alluogodd ef i rwygo’I ffordd trwodd a chynorthwyo’r ci i achub y blaen. Ac eto, dim ond cerflun ydyw a gall fod yn unrhyw beth, a hynny rwy’n hoffi.” (Cyfieithiad: Awen Schiavone.)
