
Cliciwch neu dapiwch unrhyw lyn isod i ddechrau gweld yr arddangosfeydd.












Mor gynnar â 1945 oedd ymgais gyntaf Jonah mewn cerfluniaeth – torso bychan menyw wedi’i gerfio o bren olewydd, darn hynod o fedrus. Er gwaethaf hyn ni theimlodd yn barod i ymgymryd o ddifrif â’r cyfrwng nes iddo gael hyfforddiant mewn cerfio maen yng ngweithdy Eric Gill ym 1950. O 1952 ymlaen, pryd bynnag y bu seibiant mewn llif comisiynau, gweithiodd Jonah ar ei syniadau creadigol ei hun. Cerfluniau ar raddfa fechan oedd y canlyniad, yn aml wedi’u llunio o gerrig yr oedd wedi’u darganfod neu ‘roedd cyfeillion wedi rhoi iddo fe.
Cynhyrchodd Jonah o leiaf 30 o’r gweithiau yma dros y cyfnod hwn. Gwelir gwreiddiau Clasurol yn y darnau cynharaf, ynghyd â rhywfaint o ddyled i Eric Gill. Nes ymlaen yn y degawd mae dylanwad y Mynegiadwr [Expressionist] Almaenig Ernst Barlach i’w weld, gyda symudiadau steiliedig, dramatig. Defnyddir lliw cryf y deunydd yn effeithlon iawn. Mae cerfluniau y degawd yma yn aml yn fras naddedig, gydag olion crafangau’r cŷn yn weladwy. Cyfeiriodd atynt nes ymlaen fel “little primitive stone-carvings”: “they were quite outside art school work, they were simply me, on them I learned and soldiered.”
