Jacob a’r Angel

Jacob a’r Angel, tywodfaen, 1959. Casgliad: Oriel Glynn Vivian, Abertawe.

Datblygodd Jonah Jones obsesiwn penodol gyda’r ffigwr Beiblaidd dynol o Jacob, a alwodd yn “yr ymgeisydd o werth cyntaf i soffa’r seiciatrydd – gyda’i berthnasau rhyfedd â’i dad, â’i fam, â’i frawd, â’i wraig, â’i feistres, cymdeithas a Duw – parhaodd y Jacob yma ddychwelyd a chyd-deithio â mi ar fy llwybrau cyfeiliornus fy hun.” Mae’r esblygiad cynnil mewn steil rhwng y darn hwn a’r cerflun cynharach o Jacob ym Mheniel yn nodedig. (Cyfieithiad: Awen Schiavone.)

DIWEDDARIAD: Mae’r cerflun wedi bod yn cael ei arddangos yn barhaol yn y Glynn Vivian ers i sioe William G. Lewis gau yn 2022: gweler ein hadroddiad, Mehefin 2022.