
Madonna, carreg Portland a deilen aur, gynt yn Eglwys yr Ysbryd Sanctaidd (wedi cau), Cricieth, c.1958. Ffotograff: Stephen Brayne.
Tra ar ymweliad yn haf 1959, gwelodd y Tad Claude Leetham, prifathro Coleg Ratcliffe, ger Caerlŷr, y Madonna yn eglwys Gatholig newydd Cricieth a phenderfynodd mai’r arlunydd a’i gwnaeth oedd y dyn i wneud yr holl waith celf ar gyfer capel newydd yr ysgol. Roedd yn nodi’r pwynt lle symudodd gyrfa Jonah Jones i lefel newydd.
