Cerfluniau: 1960au

Oriel Jonah Jones logo

Y 1960au oedd degawd mwyaf cynhyrchiol Jonah, y blynyddoedd pan gyrhaeddodd frig ei bwerau. Er i gomisiynau ar gyfer eglwysi cymryd llawer o’i amser, lluniodd hefyd nifer sylweddol o’i gerfluniau ei hun. Erbyn dechrau’r cyfnod hwn roedd hanfod ei waith yn esblygu o driniaeth ffigurol, tuag at fwy o gynildeb a phurdeb ffurf, heb “uwchseiniau emosiynol” yng ngeiriau Jonah. Wrth symud ymlaen datblygodd ei arddull yn eithaf cyflym i haniaeth, gan ddangos meistrolaeth hyderus o’i syniadau a gweithredu.

O tua 1965 dechreuodd Jonah gyfuno deunyddiau gwrthgyferbyniol mewn un gwaith – llechen gyda marmor, carreg gydag alwminiwm (cynhyrchodd nifer o weithiau mewn metel yn ystod y blynyddoedd hyn). Tra’n dal i fod yn gymharol bychan ar y cyfan, roedd y cerfluniau hyn yn ehangach na’i waith cynnar. Roedd y mwyaf ohonynt i gyd yn gomisiynau cyhoeddus – gyda nifer o’r rhain yn adlewyrchu ei ddiddordeb cynyddol mewn themâu yn ymwneud â hunaniaeth, mytholeg a thirwedd Cymru.