Y Bont (Avo Penn Bid Pont)

Gwyliwch animeiddiad dramatig gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), a grëwyd mewn cyfranogiad gyda See3D Ltd. Hyd: 2 funud 35 eiliad. (Dim sain.) © Y Goron.

Y Bont, yn wreiddiol yn ffreutur Coleg Harlech, wedi’i dynnu lawr yn 2012 i’w storio’n ddiogel, nawr yng ngofal Scene & Word. Marmor Carrara a llechen las a phorffor, 1969–70. Ffotograffau: Robert Greetham.

Fe’i comisiynwyd y mur-cerflun anferth hwn, sy’n mesur 38 troedfedd ar draws a 15 troedfedd o uchder, gan Goleg Harlech, yr hen sefydliad Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Wedi’i lapio o amgylch tair ochr siafft lifft mewn ffreutur bloc uchel o lety myfyrwyr, roedd y cyfansoddiad yn ffurfio cyfanwaith ond gyda phob mur yn cynnwys endid ei hun. Fel man cychwyn, defnyddiodd Jonah ail gainc y Mabinogi, Branwen Ferch Llŷr.

Ymysg themâu eraill, mae’r stori’n ymwneud â hunanaberth a dyletswydd i’r da cyffredin. Dyma oedd wrth galon rhan ganol y mur-gerflun, lle cei’r ffurf pont yn bongamu bwlch, yn symbylu geiriau’r cawr Bendigeidfran, brenin Prydain, pan gyrhaedda ei gyrch i Iwerddon i achub ei chwaer bardduedig Branwen, y Shannon: “Avo Penn Bid Pont” (a fo ben, bid bont). Gorwedd Bendigeidfran ar draws yr afon wrth i’w fyddin groesi drosto.

Mae’r ffurf pont yn uno’r ddau hanner cyferbyniol o’r mur-gerflun, gyda siapiau organig, naturiol yr olwg i’r chwith a phatrymau caled-ochrog gwneud i’r dde, gan gynnwys mandala, symbol o chwiliad dynoliaeth am undod, yn y canol. Mae’r cerflun, felly, yn dathlu addysg fel modd o gyflawni cytgord rhwng natur a dynoliaeth, yn ogystal â’r rôl mae dysgu yn ei chwarae mewn gwelliant cymuned – neges optimistaidd a chadarnhaol sy’n nodweddiadol iawn o’r 1960au.

Mae un o frasluniau dylunio Jonah ar gyfer Y Bont – triniaeth collage, a ddangosir uwchben mewn mân-lun – wedi’i arddangos yma yn adran Penddelwau, mosaigau a chyfryngau eraill.

Gyda Choleg Harlech yn wynebu cael ei gau, a’r bloc llety ei ddymchwel, cafodd y cerflun ei ddatgymalu gan Scene & Word yn 2012 a’i roi mewn storfa. Mae dyfodol y cerflun yn parhau i fod yn aneglur. Cliciwch yma am ein hadroddiad newyddion diweddaraf (2013). Ar gyfer adroddiadau cynharach, defnyddiwch y tag ‘Y Bont’ ar waelod yr erthygl.

(Cyfieithiad: Awen Schiavone.)