Y Tywysogion

Uchod: Y Tywysogion, llechen wledig Ffestiniog a charreg Portland, 1968. Canolfan Llys Llywelyn, Aberffraw.

Dros 5 troedfedd o daldra, roedd Y Tywysogion yn gerflun symbolaidd a oedd i’w godi yn Aberffraw ar Ynys Môn, sef safle llys tywysogion canoloesol Gwynedd. Mae dwy o’r pedwar ffurf llechen wastad i’w gweld fel rhyfelwyr a dau fel tariannau wyneb i fyny, cyfeiriadaeth at cyfarchiad Celtaidd hynafol rhwng dieithriaid arfog fel y crybwyllir yn ail gainc y Mabinogi, “A oes heddwch?” Nododd Shelagh Hourahane yn Planet ym 1987 fod y ffigurau hyn “yn anhysbys ond yn amlwg yn symboleiddio amddiffynwyr unionsyth, wedi’u grwpio’n agos mewn cylch. Mae eu llinach ‘Celtaidd’ wedi’I ddynodi yn yr arysgrifiad cnotiog cyfarwydd â’r gydblethiad.” Ar ôl cael ei fandaleiddio (yr oedd Hourahane yn meddwl “a efallai’n awgrymu grym celf wleidyddol yng Nghymru”), symudwyd y cerflun i’w safle cyfredol, Canolfan Llys Llewelyn yn Aberffraw. (Cyfieithiad: Awen Schiavone.)

Uchod: y cerflun difrodi ar ei safle cyfredol yng Nghanolfan Llys Llewelyn.

Uchod: Y Tywysogion – maquette pren. Casgliad preifat.