
Mae Gwobr Jonah Jones yn gynllun gwobrwyo ar gyfer artistiaid ifanc. Rydym yn codi arian ar ei gyfer trwy roddion a gwerthiannau di-elw o’n Siop Jonah Jones. Yn 2023 trwy’r gronfa fe wnaethom gyfrannu at Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd lle enillodd Shauna Taylor y categori Canmoliaeth Uchel. Yn 2024 a 2025 cefnogodd y gronfa gyfres o weithdai yn Y Lle Celf mewn disgyblaethau sy’n gysylltiedig â gwaith Jonah Jones: llythrennu a gwydr dan ofal y gemydd/crefftwr Beca Fflur yn Eisteddfod Rhondda-Cynon-Taf yn 2024, a phrintiau ‘syanoteip’ dan ofal yr artist amlddisgyblaethol Ffion Pritchard yn Eisteddfod Wrecsam yn 2025.
Cefndir ac amcanion cronfa Gwobr Jonah Jones
Fel bachgen dosbarth gweithiol o deulu tlawd heb unrhyw fynediad i’r celfyddydau pan oedd yn ifanc, roedd Jonah Jones yn ymwybodol iawn faint oedd ei ddyled i’r rhai a oedd wedi’i fentora a’i helpu i gyflawni ei nod o ddod yn artist.
Cyflwynodd ei gyflogwr cyntaf, Mona Lovell, ef i ffurfiau celf newydd ac ehangodd ei brofiad o lenyddiaeth a cherddoriaeth yn fawr, yn ogystal â’i helpu gyda deunyddiau peintio. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu grŵp o beintwyr Castle Bolton, yn arbennig Fred Lawson ond hefyd George Jackson, Muriel Metcalfe a George Graham, yn ei diwtora yn ei gyfrwng dewisedig cyntaf, sef dyfrlliw.
Yn ddiweddarach dysgodd Jonah lawer gan ei gymrawd o’r fyddin John Petts, y gwneuthurwr torluniau pren a’r argraffydd cain, ac ar ôl y rhyfel cafodd gymorth yn ei ddyhead i fod yn gerflunydd a thorrwr llythrennau gan Joseph Peter Thorp, hwylusydd mawr i ddarpar artistiaid, a ddefnyddiodd ei gysylltiadau i drefnu ysgoloriaeth yn hen weithdy Eric Gill, lle dysgodd Jonah am gerfio a thorri cerrig gan Lawrence Cribb, cynorthwyydd Gill.
Yn olaf, wrth sefydlu ei hun cafodd fudd aruthrol o nawdd Syr Clough Williams-Ellis, a lywiodd ffrwd gyson o gomisiynau tuag ato i ddarparu incwm parhaus.
Wnaeth Jonah byth anghofio sut yr oedd y bobl hyn i gyd wedi ei helpu i ymsefydlu, ac roedd yn ei dro bob amser yn frwd dros helpu artistiaid ifanc, boed hynny trwy air o gyngor mewn adolygiad coleg celf, cyfnod o hyfforddiant yn ei weithdy neu help gyda chael gwaith addysgu.
Gan gofio’r ffaith bod angen i lawer o artistiaid a gwneuthurwyr ifanc heddiw, fel gyda Jonah yn y gorffennol, adeiladu gyrfa “bortffolio”, gan gyfuno eu hymarfer creadigol â chomisiynau a dderbyniwyd, gwaith mwy masnachol ac addysgu mewn amrywiol ffurfiau, mae Scene & Word yn ceisio cefnogi’r broses adeiladu hon drwy ddyfarnu Gwobr Jonah Jones yn flynyddol i ymarferwyr ifanc dethol i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y camau cynnar hollbwysig.

Jonah Jones (canol) gyda Howard Bowcott (chwith) a Meic Watts (dde), a ffurfiodd Grŵp Moelwyn gyda’u gilydd ar gyfer ail Ŵyl Cricieth, 21 Mehefin–8 Gorffennaf 1989. Bu’r tri yn gweithio fel cerflunwyr mewn llech a deunyddiau eraill. Daeth Bowcott, a gafodd ei arholi gan Jonah ym Mhrifysgol Newcastle, yn wneuthurwr uchel ei barch o gerfluniau trefol cyhoeddus. Dechreuodd Watts hyfforddi gyda Jonah ym 1985, ar ôl graddio o Ysgol Gelf Norwich, lle’r oedd Jonah yn arholwr. Dysgodd sut i dorri llythrennau gyda Jonah ac aeth ymlaen i sefydlu ei hun fel cerfiwr carreg medrus. Rhannodd weithdy gyda Jonah tan 1991.

Uchod, chwith: Jonah Jones (mewn crys gwyn) yn Model House, Llantrisant, ym 1992, yn gweithio gyda phlant ysgol lleol ar fosaig yn cysylltu Llantrisant â’i gefeilldref, Nürtingen yn yr Almaen; dde, disgyblion Ysgol y Gader, Dolgellau, a weithiodd gyda Jonah ym 1974 ar Y Neges, cerflun mawr concrit awyr agored ar stad yr ysgol, dan gynllun a arloesodd, ‘Artist mewn ysgolion’, i Gymdeithas Gelf Gogledd Cymru. Gallwch weld y murlun yn Model House o hyd ond cafodd y cerflun ei ddinistrio amser maith yn ôl.
