Hunangofiant darlunedig: LINE RED TO SPACE, THE MAGNITUDE IS GREEN

£33.00

Hanes bywyd epig artist cymdeithasol ymroddedig sydd angen arbrofi gydag ieithoedd gweledol newydd.

27 mewn stoc

Disgrifiad

Terry w Scales – Adastra Publishing, 2024

Mae hunangofiant darluniadol Terry w Scales yn olrhain ei ddatblygiad fel artist, o’i dalent gynnar yng Ngholeg Celf Hornsey ar ddiwedd y 1960au i’w brintiau, paentiadau a cherfluniau trawiadol diweddar a grëwyd yn ei stiwdios yn y Mwmbwls a ger Poitiers yng nghanol cefn gwlad Ffrainc.

O radicaliaeth ei ieuenctid i optimistiaeth lluniadaeth (‘constructivism’) a moderniaeth (‘modernism’), mae ei waith bellach yn mynegi anniddigrwydd ofnus dwfn ynghylch ein natur annaturiol wrth inni ddod mor ymwybodol sut rydym yn dinistrio ein planed. Mae ei ymdeimlad cryf o ymrwymiad cymdeithasol yn cael ei yrru gan yr awydd i arbrofi mewn datblygu ieithoedd gweledol newydd.

Rhwng ei ymrwymiad cymdeithasol creadigol ar hyd ei yrfa a’r presennol mae hanesion rhyfeddol am ei gwmni teithiol amlgyfrwng unigryw a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr yn gweithio gydag artistiaid, dawnswyr a cherddorion, a oedd ar flaen y gad yn y mudiad celf cyhoeddus trawsnewidiol ‘celf i bawb’ yn y 1970au, gan gyrraedd ei uchafbwynt gyda Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Singapôr ym 1986, lle buont yn cynrychioli’r DU.

Dilynodd dadeni yn y 1990au gyda’i ymchwil ‘luminaria’ i’r patrymau haniaethol deinamig a chyfansoddiadau golau sy’n britho ein byd trefol a domestig. Mae ei waith diweddaraf yn drawiadol o wreiddiol yn ei bortread o bŵer a harddwch pren.

Mae’r llyfr 336 tudalen hwn, gyda mwy na 700 o ddelweddau, yn gynhyrchiad lliw-llawn ysblennydd a dyma’r teitl cyntaf gan argraffnod newydd, Adastra Publishing, a sefydlwyd gan Scene & Word i gyhoeddi gwaith cyffrous artistiaid byw Cymreig.

ISBN 978-0-9564314-2-4. Mae’r pris yn cynnwys cludiant yn y DU.