Erthygl gwyddoniadurol am Jonah: bywyd, celf, ysgrifau detholedig, darllen ymhellach, dolenni allanol. Mae erthygl helaethach am Jonah yn y Wicipedia Saesneg.
Ffotograffau o Jonah Jones: Wikimedia Commons
Casgliad hynod ddiddorol o 100 o ffotograffau, y rhan fwyaf ohonynt o Jonah wrth ei waith (gan gynnwys rhai dyblygiadau), yn ei weithdai yn Neuadd y Farchnad Tremadog a’r gweithfeydd teils terrazzo ar lan harbwr Porthmadog. Rhai o Laurie Cribb. Ffotograffydd: Geoff Charles. Casgliad lluniau: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ysgrif goffa gan Meic Stephens yn yr Independent, 2 Rhagfyr 2004 (cynnhwysa rai wallau ffeithiol, ond fel arall mae’n grynodeb da).
Ysgrif goffa gan Euan Cameron yn y Guardian, 14 Ionawr 2005.
Portread cryno o Jonah gyda ffotograffau o rai o’i weithiau. Mae rhai o’r lluniau sydd ar goll o Bortffolio Cymraeg–Americanaidd yn Amgueddfa Cymru i’w gweld yma yn Oriel Jonah Jones.
Autodidact who discovered Wales: Sefydliad Materion Cymreig (Institute of Welsh Affairs)
Adolygiad gan Harri Pritchard Jones o’r bywgraffiad Jonah Jones: an Artist’s Life, 17 Mehefin 2012.
Jonah Jones – 224 Parachute Field Ambulance: Archif Arlein Belsen
Erthygl gan Peter Jones am lythyrau Jonah i Mona Lovell, cyhoeddwyd yn Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector.
Adroddiad gan BBC Cymru Wales TV o raglen ‘Wales Today’, 19 Medi 1966, gyda Jonah yn sgwrsio yn ei weithdy yn Neuadd Farchnad Tremadog am ei gerfluniau, gwneuthuro’r ffenestri ar gyfer eglwys ym Morfa Nefyn (nawr yn y Wyddgrug) a’i freuddwyd (nas wireddwyd) o greu cerflun mawr i goffhau cymuned foddedig Tryweryn.
Jonah Jones art on show at National Museum Cardiff: BBC News
Adroddiad BBC News am arddangosfa ‘Jonah Jones: Y Gair/The Word’ yn Amgueddfa Cymru, 2012–13.
Y Bont: BBC Cymru Wales ‘Hidden Histories’
O ran 3 o gyfres ‘Hidden Histories’, 17 Tachwedd 2009, cynhyrchiad gan Element Productions ar y cyd â Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Astudiaeth o gerflun cyhoeddus mwyaf Jonah, Y Bont, a nododd dechrau’r ymgyrch i achub y cerflun pwysig hwn rhag dinistriad a chanfod cartref newydd iddo yng Nghymru.
Cydweithwyr ac enillwyr Gwobr Jonah Jones
John Petts (1914–1991)
Roedd y ddau heddychwr, Jonah Jones a John Petts, yn yr un uned barasiwt yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle cyfarfuon nhw ym 1944. Artist amryddawn, cerflunydd, athro a chyhoeddwr oedd Petts, wedi astudio yng Ngholeg Celf Hornsey, yr Academi Frenhinol ac Ysgol Ganolog y Celfyddydau a’r Crefftau. [Darllen mwy…]
Lawrence (Laurie) Cribb (1898–1978)
Parhauodd Lawrence Cribb (roedd ei holl ffrindiau’n ei alw’n Laurie) i gynhyrchu arysgrifau cain yng ngweithdy’r diweddar Eric Gill yn Pigotts ger High Wycombe. Roedd Jonah Jones yn awyddus i ddysgu sgiliau cerfio carreg a thorri llythrennau ganddo. Sicrhauodd ysgoloriaeth bychan i hyfforddi yn Pigotts ddechrau 1950. [Darllen mwy…]
Meic Watts
Graddiodd Meic Watts o Ysgol Gelf Norwich ac yna dechreuodd brentisiaeth mewn torri llythrennau a cherfio cerrig yng ngweithdy Jonah Jones ger Penrhyndeudraeth. Ym 1989, gyda Jonah a’r cerflunydd Howard Bowcott, ffurfiodd Grŵp Moelwyn i arddangos yn ail Ŵyl Cricieth. [Darllen mwy…]
Howard Bowcott
Gyda Jonah Jones a Meic Watts, ffurfiodd Howard Bowcott Grŵp Moelwyn ym 1989 i arddangos yn ail Ŵyl Cricieth. Mae’n gerflunydd sy’n arbenigo mewn prosiectau celf gyhoeddus a chomisiynau preifat. Mae’n ystyried bod ei waith celf yn ymwneud â “chyffyrddiad…” [Darllen mwy…]
Shauna Taylor
Aeth y Wobr Jonah Jones gyntaf o Scene & Word i’r arlunydd Shauna Taylor yn 2023. Enillodd ei thri delwedd, Peint Cyntaf y Babi, Hen Nain yn Torheulo a Cusan Cyntaf iddi’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc: Canmoliaeth Uchel yn y Lle Celf, yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. [Darllen mwy…]
Beca Fflur
Yn 2024 dyfarnwyd Gwobr Jonah Jones i’r gemydd/crefftwr Beca Fflur. Cafodd ei chyfres o weithdai yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eu hysbrydoli gan waith gwydr lliw a llythrennu Jonah Jones. [Darllen mwy…]
Ffion Pritchard
Yn 2025, dyfarnwyd Gwobr Jonah Jones i’r artist amlddisgyblaethol arobryn Ffion Pritchard. Wedi’i hysbrydoli gan lythrennu dyfrlliw Jonah Jones a defnyddio ei Alphabetum Romanum Jonah fel ei ffynhonnell, cynhaliodd gyfres o weithdai ‘syanoteip’ yn Eisteddfod Wrecsam. [Darllen mwy…]
