Lawrence (Laurie) Cribb (1898–1978)

Parhauodd Lawrence Cribb (roedd ei holl ffrindiau’n ei alw’n Laurie) i gynhyrchu arysgrifau cain yng ngweithdy’r diweddar Eric Gill yn Pigotts ger High Wycombe. Roedd Jonah Jones yn awyddus i ddysgu sgiliau cerfio carreg a thorri llythrennau ganddo. Sicrhauodd ysgoloriaeth bychan i hyfforddi yn Pigotts ddechrau 1950. Dywedodd Jonah am ei gyfnod yno, mewn traethawd ar Eric Gill a ysgrifennodd ym 1989: “The fun of the Gill times persisted. Laurie was a lively gossip and told tales, unrepeatable in print, of the master’s life and times.” Dyna oedd dechrau cyfeillgarwch hir a ffrwythlon rhwng y ddau ddyn.

Ar ôl i’r gymuned yn Pigotts chwalu, symudodd Laurie i Ogledd Cymru ym 1957. Thair blynedd yn ddiweddarach ymunodd â gweithdy Jonah, gan ddelio â’r nifer cynyddol o gomisiynau llythrennu a oedd yn dod i mewn. Ond roedd Laurie yn fwy na chynorthwyydd – roedd hefyd yn gydweithiwr. Mewn traethawd ym 1973 yn Artists in Wales 2, ysgrifennodd Jonah: “It was enough to mark out a block [of stone] and Laurie would start his wonderful pitching, claw and chisel work and we’d work out the idea together – he is wonderful at translating ideas into work.” Yn y blynyddoedd diweddarach, dywedodd Jonah: “I owe everything to Laurie, really … he not only taught me how to cut letters, but how to establish a workshop and all that.”

https://stoneletters.com/blog/eric-gill-and-pigotts

https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Alter_of_the_Chapel_of_St_George_and_the_English_Martyrs,_Westminster_Cathedral,_London.jpg

Laurie Cribb yng ngweithdy Eric Gill yn Pigotts lle, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dysgodd i Jonah Jones sut i gerfio carreg a thorri llythrennau. Ffotograff o BBC Hulton Picture Library.