Meic Watts

Graddiodd Meic Watts o Ysgol Gelf Norwich ac yna dechreuodd brentisiaeth mewn torri llythrennau a cherfio cerrig yng ngweithdy Jonah Jones ger Penrhyndeudraeth. Ym 1989, gyda Jonah a’r cerflunydd Howard Bowcott, ffurfiodd Grŵp Moelwyn i arddangos yn ail Ŵyl Cricieth. Etifeddodd y gweithdy ar ôl i Jonah symud i Dde Cymru ym 1991.

Mae ei gomisiynau cyhoeddus niferus yn cynnwys cerfiadau yn dathlu dramodwyr Cymreig yn y theatr awyr agored ym Mharc Glynllifon, Tidemark ym Mae Caerdydd, y Fainc Rhaff Llechen yn Hull, Madonna torwyd ar lechen yn Eglwys yr Holl Sanctaidd, Llantrisant, Cofeb John Evans yn Waunfawr, a Chroes Santes Ffraid ym Mae Trearddur. “Mae fy ngwaith wedi amrywio dros y blynyddoedd ac rwyf wedi defnyddio gwydr, metel a deunyddiau eraill gyda charreg. Yr ysbrydoliaeth erioed fu’r garreg ei hun a gweithio gyda natur.”

https://www.makersguildinwales.org.uk/meic-watts.html

https://www.workingstone.com/sculptors/meic-watts

Dyfrgi, Meic Watts, llechen gerfiedig.