Arysgrifau dyfrlliw: Portffolio Cymraeg–Americanaidd

Oriel Jonah Jones logo

Ym mis Ebrill 1984 comisiynodd Prifysgol Gorllewin Illinois Jonah i gynhyrchu 14 arysgrif baentiedig o gerddi Cymreig ar gyfer portffolio ac arddangosfa deithiol, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o gyfoeth diwylliant Cymru a’i ddylanwad yn yr UDA. Roedd y testunau yn ymdrin â dwy gerdd yr un gan Dannie Abse, Euros Bowen, Gillian Clarke, Tony Curtis, Bobi Jones, Glyn Jones a Gwyn Thomas, rhai yn Saesneg ac eraill yn Gymraeg. Mae’r canlyniadau ymhlith arysgrifau paentiedig gorau Jonah. Nododd fod yr arddull o lythrennu a ddefnyddiodd yn ddyledus i raddau helaeth i “very secular examples in [the] National Museum of Wales (Welsh Roman stones far far removed from their classical source) and to David Jones, the great exemplar”.