
Cliciwch neu tapiwch unrhyw lun isod ar gyfer dwy ‘stafell’ yr adran Arysgrifau dyfrlliw.

Roedd “Y Gair” yn ganolog i waith cyfan Jonah. Cerfiodd lythrennau mewn maen, ond hefyd ysgrifennodd lyfrau a thraethodau, a bu’n argraffu a cyhoeddi, a darlledodd. Roedd yn gam naturiol iddo droi at baentio geiriau. Yn y 1960au y gwnaeth ei ymdrechion cyntaf yn cyfuno testun â delweddau, pan luniodd gwpl o’i gerddi ei hun.

Ond ym 1981–82, yn ystod ei gymrodoriaeth yng Ngregynog, fe lansiodd o ddifrif i arysgrifau peintiedig. Dyma oedd prif ffocws ei gynnyrch artistig yn ei flynyddoedd olaf.
Ffotograffiau: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Archif Bywgraffiadur Artistiaid Cymru.
