
Cliciwch neu dapiwch lun isod i ddechrau gweld yr arddangosfeydd.












Gwnaed un o arysgrifau paentiedig cyntaf Jonah yn 1982 fel dyluniad ar gyfer print gan Wasg Gregynog sy’n dyfynnu o gerdd fawr Gruffudd ab yr Ynad Coch ‘Marwnad Llywelyn yr Olaf’, i ddathlu 700 mlynedd ers marwolaeth y Tywysog. Tynnodd Jonah yn helaeth ar gyfer hyn ar arddull brodorol llythrennu a ddefnyddiwyd gan David Jones yn ei destunau paentiedig. Gyda threigl amser daeth i ddefnyddio lliw llachar, wedi’i gyfuno â delweddau a symbolau. Yn hyn o beth daeth Jonah yn dipyn o arloeswr, gan fod ei ddull wedi cael ei efelychu yn aml yn yr 21fed ganrif.
