
Hazlitt’s Dictum, dyfrlliw ar bapur, 1998. Casgliad preifat. Ffotograff: Robert Greetham.
Fel y dywedodd Jonah mewn traethawd yn 1998, “Roedd Y Gair yn ganolog i fy ngaith.” Yn ogystal â cherfio llythrennau mewn carrig, fe “beintiodd lythrennau ar bapur, printiodd rhywfaint, ysgrifennodd geiriau mewn llyfrau, a’r cwbl gan gadw’r ffydd gyda’r Gair.” Cynigodd rhai testunau’r her bleserus o ddarganfod symbolau bychain a delweddau I ddarlunion themâu neu drosiadau ei ddewis o eiriau. Yn edrych yn ofalus ar Hazlitt’s Dictum, gallwch ddychmygu bod Jonah wedi mwynhau ei hun wrth weithio arno.
