Mae’r cerflun arloesol newydd Codebreakers ym Mae Caerdydd wedi’i osod yn hen leoliad Maen Panorama gan Jonah yn Sgwâr Landsea.
Gosodwyd Maen Panorama ym 1993 i goffau cysylltiadau Caerdydd â phorthladdoedd ledled y byd yn ystod ei anterth fel porthladd pwysig oedd yn allforio glo.
Gan wneud lle yn raslon i’r newydd-ddyfodiad, mae Maen Panorama wedi’i adleoli heb oedi gan Gyngor Caerdydd rownd y gornel yng Ngerddi Landsea, lle, fel o’r blaen, mae golygfa banoramig o’r Bae.


Ffotograffau gan Robin Ritter-Jones
