Roedd yn drist iawn gan Scene & Word glywed bod ein cyfaill da David Lovell (1951–2023) wedi marw yn 71 oed. Roedd David yn nai i Mona Lovell, ffrind clos a mentor i Jonah yn y 1930au a’r 1940au. Byddwn yn ddyledus i David am byth am ganiatau i ni olygu a chyhoeddi detholiad o ohebiaeth toreithiog Jonah gyda Mona, a daflodd oleuni pwysig ar ei ddatblygiad fel artist a’i brofiadau yn ystod y rhyfel a’r blynyddoedd wedyn. Cyhoeddwyd Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (gol. Peter Jones; Seren Books, 2018 – ar gael nawr o Siop Jonah Jones) fel canlyniad. Rydym yn ymestyn ein cydymdeimlad i Anne, gweddw David, a’i holl deulu.

Lansiad Dear Mona yng Nghwrt Insole, Llandaf, 14 Tachwedd 2018. Mae David Lovell yn bedwerydd o’r chwith.
