Gwerthwyd dau fraslun mewn pensil a dyfrlliw gan Jonah yn Colchester, Essex ar 18 Gorffennaf gan yr arwerthwyr Reeman Dansie.
Mae’r astudiaethau bychain, a wnaed yn 1964, yn dangos eglwys Sant Nicolas (Agios Nikolaos) ar ynys Aegina yng Ngwlad Groeg o ddwy ongl wahanol. Mae’r delweddau’n cynnwys yr eglwys ei hun a chychod pysgota cyfagos gyda’u rigin, y ddau wedi’u braslunio’n ddigymell mewn pensil, gyda’r dŵr yn yr harbwr a’r awyr wedi’u paentio mewn golchfa las ddofn. Mae dull rhydd y brasluniau yn nodweddiadol o astudiaethau pensaernïol Jonah oddeutu’r cyfnod hon. Mae un llun wedi’i lofnodi a’i ddyddio “St Nicolas Aegina – Jonah Jones ’64”, tra bod y llall yn rhoi dim ond y lleoliad.
Gwnaethpwyd yr astudiaethau gan Jonah yn ystod wythnos yng Ngwlad Groeg yn gynnar yn 1964, wrth iddo deithio i ymweld â’i rhienni yng nghyfraith yn Israel gyda’i wraig Judith a’i ferch Naomi (sydd nawr yn un o gyfarwyddwyr Scene & Word Cyf).
Buasai Scene & Word yn falch iawn o glywed gan brynwr y ddau fraslun.
