Mae Eglwys Gatholig Atgyfodiad Ein Prynwr, sy’n cynnwys ffenestri dalle de verre a mosaig mawr gan Jonah Jones, newydd cael ei gwerthu ar ôl iddi gau ym 2016.
Cadarnhaodd Beresford Adams, yr asiant eiddo sy’n delio gyda’r arwerthiant, a Rebecca Garratt, Rheolwraig Cefnogaeth Busnes Esgobaeth Wrecsam, y buasai’r celfwaith yn cael ei symud o’r eglwys cyn i’r adeilad gael ei drosglwyddo i’r perchennog newydd. Fe storir y celfwaith yn ddiogel nes iddo gael ei osod mewn egwlys newydd yn yr Esgobaeth.
