2019 fydd blwyddyn canmlwyddol Jonah ac i’w ddathlu mae arddangosfa adolygol o’i waith yn cael ei threfnu yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, am chwe wythnos o 27 Ionawr i 17 Mawrth 2019. Bydd y sioe helaeth yn cynnwys enghreifftiau o’i gerfluniau, paentiadau, llythrennau a gwydr o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, mae nifer o artistiaid a oedd mewn rhyw ffordd yn gydweithwyr iddo wedi cael eu gwahodd i gyfrannu gweithiau y teimlant fydd yn adlewyrchu’r berthynas neu’n rhoi sylwadau ar agwedd nodedig Jonah at ei waith ei hun.
