
Ar 8 Hydref 2018 cafodd Dear Mona, llyfr newydd gan Jonah Jones wedi’i olygu gan ei fab a’i gofiannydd Peter Jones, ei gyhoeddi gan Seren Books. Peter hefyd yw awdur y cofiant Jonah Jones: an Artist’s Life, a gyhoeddwyd gan Seren Books yn 2011.
Lansiwyd y llyfr gerbron cynulleidfa wadd yng Nghwrt Insole, Llandaf, ar ddydd Mercher 14 Tachwedd. Ymhlith y gwesteion roedd David Lovell, nai Mona Lovell, a anfonodd flwch o gannoedd o lythyrau amser rhyfel oddi wrth Jonah (neu Len, fel yr adwaenid ef ar y pryd) ymlaen i Peter, a ddarparodd ffynhonnell y llyfr.

Yn lansiad y llyfr ar 14 Tachwedd. Peter Jones sydd yn y canol, yn dal copi o’i lyfr. Yn drydydd ac yn bedwerydd o ochr chwith y llun mae Mick Felton, rheolwr Seren Books, a David Lovell. Mae eraill yn y grŵp yn deulu a ffrindiau.
Dywedodd Seren Books fod y llyfr:
… yn adrodd yn ei eiriau ei hun nid ond hanes ei fywyd cynnar a’i berthynas â Mona Lovell, ond hefyd hanes yr Ail Ryfel Byd, byw ar y Ffrynt Cartref, ar faes y gad yn Ewrop ac yn Israel ddatblygol.
Mae’r llythyrau yma yn dangos mewn modd nodweddiadol sut y newidiodd cymeriad Jones. Fel nifer o wrthwynebwyr cydwybodol, yn y pendraw cymerodd ran mwy weithredol yn y frwydr yn erbyn ffasgaeth trwy ddod yn feddyg di-arfog. Yn rhinwedd y swydd hwn cafodd ei barasiwtio yng ngogledd Ewrop a chymerodd rhan yn ymgyrchoedd Ardennes a’r Almaen, ac yn rhyddhad gwersyll Belsen.
Ar ôl y rhyfel cafodd ei ddanfon i Balesteina, ble sylwodd ar y problemau wrth i Israel gael ei sefydlu,ond hefyd llwyddodd i ddatblygu ei alluoedd celfyddydol er budd ei uned yn y fyddin. Yn Haifa cyfarfu a phriododd â menyw arall, Judith Grossman – er braw mawr i Mona Lovell. Dychwelodd i Brydain gyda Judith a dechreuodd ei yrfa fel artist, nawr gyda’r enw Jonah Jones.
Cawn ddirnad yn fanwl esblygiad cymeriad Jones wrth ddarllen Dear Mona, wrth iddo newid o’r Len Jones lletchwith i’r artist Jonah Jones. Mae’r llyfr hefyd yn adrodd yn fanwl hanes y Ffrynt Cartref, gwrthwynebiad cydwybodol, yr ymgyrch yn Ewrop ar ôl D Day a’r tensiynau ym Mhalesteina, sy’n atseinio hyd heddiw. Mae hwn yn stori hynod a bywiog; mae’n bersonol a phreifat, ond hefyd hanes yn digwydd o flaen ei lygaid e.
Diweddariad: Mae’r holl stoc sy’n weddill o’r llyfr bellach wedi’i symud o Seren Books i Scene & Word. Gellir ei archebu o Siop Jonah Jones: https://sceneandword.org/cy/product/dear-mona-letters-from-a-conscientious-objector-golygwyd-gan-peter-jones/
