Fe hysbyswyd Scene & Word Cyf gan Y Tad Matthew Power SJ, cyn Uchafiad yn yr hen ganolfan encil Jesiwitaidd yn Neuadd Loyola, Rainhill ar Lannau Merswy, bod rhai o ddarnau Jonah Jones yn y capel yno wedi cael eu hail-leoli gan y Dalaith Jesiwitaidd.
Yn sgil cau Loyola Hall yn 2014 [dilynwch y ddolen ‘Neuadd Loyola’ isod i dod o hyd i’r adroddiad ‘Canolfan encil Jesiwitaidd gyda chelfwaith gan Jonah Jones i gau’, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2013], mae’r Grog fawr wedi cael ei ymgorffori mewn capel newydd ym mhentre Hurst Green, Swydd Caerhirfryn, sydd wedi bod yn blwyf Jesiwitaidd am flynyddoedd maith.
Fe symudwyd Gorsafoedd y Groes i Sant Beuno, y ganolfan encil Jesiwitaidd yn Nhremeirchion yng Ngogledd Cymru. Wrth i ni gyhoeddi’r adroddiad hwn nid oeddent wedi cael eu gosod mewn lle eto.
Fe werthwyd Neuadd Loyola ei hun yn 2017 i gwmni Signature Living, a roddodd yr enw newydd Neuadd Rainhill i’r ganolfan. Cadwyd gwydr lliw Jonah Jones [enghraifft isod] o 1965/66 yn yr adeilad rhestredig gradd dau, sydd nawr yn westy a sba. Bydd y neuadd yn cael ei defnyddio fel lleoliad priodas ac ar gyfer digwyddiadau eraill.

Ffotograff: Stephen Brayne
