Deg ffaith am ‘Y Bont’

Crëwyd Y Bont  ar gyfer Coleg Harlech yn 1969–70 gan ddefnyddio tua 800 darn o farmor Carrara a llechen Cymreig.

Y fytholeg Gymreig a ysbrydolodd Jonah

Fel man cychwyn ar gyfer Y Bont, defnyddiodd Jonah ail gainc y Mabinogi, Branwen Ferch Llŷr – stori sy’n ymwneud â hunanaberth a dyletswydd i’r lles cyffredin.

Dyma oedd wrth galon rhan ganol y cerflun, lle mae ffurf pont yn croesi bwlch. Roedd hyn yn symboleiddio geiriau’r cawr Bendigeidfran, brenin Prydain, “Avo Penn Bid Pont” (Yr hwn sy’n bennaeth, bydded yn bont), a orweddodd ar draws Afon Shannon yn Iwerddon er mwyn i’w fyddin groesi drosto.

Symboliaeth ‘Y Bont’

Dathlodd y cerflun addysg fel modd o greu cytgord rhwng natur a dynoliaeth. Roedd Y Bont fel pos gweledol yn llawn haenau o ystyr a symbolaeth. Mewn dwy ran, gyda ffurf pont yn croesi bwlch wrth galon y rhan ganol, roedd yn cyferbynnu gweithiau natur â gweithiau dynoliaeth.

Ar y chwith, roedd siapiau organig, naturiol yr olwg, fel tonnau yn llifo, haul, hanner lleuad, adenydd aderyn ac asgwrn pysgodyn.

Roedd patrymau mwy ffurfiol a wnaed gan fodau dynol ar y dde, fel ffurf soned, a mandala gyda chwarteri’n cynnwys y llythyren H (yn sefyll am Home, Happiness, Hiraeth, ac yn ôl pob tebyg Harlech) yn ogystal â ffurf gerddorol yn cynrychioli thema agoriadol Symffoni Rhif 40 yn G leiaf gan Mozart.

Mae’r mandala ei hun wedi bod yn symbol ers amser maith o chwiliad dynoliaeth am undod.

Dylanwadau a dulliau creadigol Jonah

Erbyn diwedd y 1960au, pan greodd Jonah Y Bont, roedd ei ddylanwadau’n cynnwys Henry Moore, Barbara Hepworth, Constantin Brancusi a Isamu Noguchi. Teimlai Jonah ei fod wedi symud ymlaen o “or-bwysleisio, gorfanylder ac arlliwiau emosiynol ieuenctid i… symlrwydd mewnffrwydrol.”

Ar gyfer Y Bont, defnyddiodd Jonah lif gron i dorri a llifio’r llechi yn baneli. Roedd gan y rhan fwyaf ymylon syth ond rhai wedi’u torri’n arw, ac er mai llechi glas oedd y mwyafrif, roedd ambell i ddarn llai o lechen porffor â gwythiennau gwyrdd hefyd. Adeiladodd y cerflun trwy osod y paneli llechi yn debyg i gerrig camu. Ar ben y paneli hyn, gosododd stribedi o farmor gwyn â gwythiennau llwyd, o hydoedd a thrwch amrywiol.

Offer a thechnegau Jonah

Mae’r ffoto yn dangos Jonah yn ei weithdy yng ngwaith terrazzo Porthmadog, tua 1972. Daeth y llif gron yn y cefndir – a ddefnyddid gan weithwyr y ffatri terrazzo i dorri teils – yn offeryn pwysig i Jonah ar ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au. Defnyddiodd hi i dorri a llifio llechi Cymreig a marmor Carrara ar gyfer ei gerfluniau, fel yr un y mae’n gweithio arno yn y llun, sef Y Flwyddyn.

Ar gyfer Y Bont, defnyddiodd yr un prosesau ar gyfer pob un o’r dros 800 o stribedi o farmor a llech. Gan bwyso sawl tunnell, roedd y cyfan wedi’i ddal ynghyd â phinnau dur a resin epocsi.

A ddefnyddiodd myfyrwyr Coleg Harlech ‘Y Bont’ fel ffrâm ddringo?

Allwn ni ddim rhoi sylw ar yr hen stori honno o gwbl! Ond rydyn ni’n dyfalu bod Jonah eisoes wedi meddwl y gallai hyn ddigwydd pan ddyluniodd y cerflun gyda rhes waelodol o lechi enfawr wedi’u torri’n arw i amddiffyn y rhannau mwy cain uwch eu pennau. Er eu bod yn rhan weledol o’i ddyluniad gwreiddiol, gellir hepgor y llechi hyn a gadael nhw allan o’r fersiwn cwtogedig rydym yn ei gynnig.

‘Y Bont’ ar y teledu yn ‘Hidden Histories’

Cynhwysodd BBC Cymru Wales eitem 10 munud am Y Bont yn rhaglen 17 Tachwedd 2009 o’r gyfres ‘Hidden Histories’ ar sianel BBC Two Wales.

Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu gan Element Productions ar y cyd â’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), a chafodd y rhan fwyaf ohoni ei ffilmio yn ffreutur yr hen floc y myfyrwyr; ynddi, mae merch Jonah, Naomi Trodden, ac Ysgrifennydd y CBHC, Peter Wakelin, yn trafod y broses o gynllunio a dylunio Y Bont.

Dyma ddolen i’r ffilm: https://www.youtube.com/watch?v=DriEoPmUvEk

Animeiddiad CGI newydd

Fel y cofnodwyd yn y rhaglen ‘Hidden Histories’ o 2009 am Y Bont, gwnaeth y CBHC gofnod digidol parhaol a chyflawn o’r cerflun yn ei leoliad yng Ngholeg Harlech, gan ddefnyddio’r deunydd yma i greu delweddiad CGI trawiadol o’r cerflun, yn para dwy funud.

Yn ddiweddar, gwnaethom addasu ac ehangu’r delweddiad CGI gwreiddiol gan y CBHC. Mae ein fideo diwygiedig yn ychwanegu capsiynau, cerddoriaeth ac adran ychwanegol gyfan am y fersiwn cwtogedig o Y Bont rydym yn ei gynnig ar gyfer yr hyn rydym yn gobeithio a fydd yn gartref newydd i’r cerflun yn y dyfodol – ‘rhywle yng Nghymru’…

Dyma ddolen i’r CGI newydd: https://www.youtube.com/watch?v=3xwoo9A3uWo

Yng ngofal Scene & Word

Coleg Harlech, a sefydlwyd ym 1927, oedd unig goleg addysg preswyl Cymru ar gyfer myfyrwyr hŷn ar gyrsiau hirdymor. Roedd ganddo cysylltiad agos â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (CAG). O 1968 ymlaen, darparwyd llety i fyfyrwyr mewn bloc tŵr arddull Brutalaidd 12 llawr, a adwaenid yn lleol fel y ‘Leningrad Hilton’. Roedd Y Bont wedi’i lleoli yn ffreutur y myfyrwyr ar y nawfed llawr, gan amgylchynu siafft y lifft.

Erbyn 2008, roedd y galw am lety i fyfyrwyr wedi lleihau i’r fath raddau nes bod y bloc tŵr wedi’i adael yn wag. Yn gyflym, aeth yr adeilad yn adfeiliedig a daeth yn anodd ei ddiogelu rhag fandaliaeth.

Gan boeni am ddyfodol y cerflun, cysylltasom â’r CAG, a oedd erbyn hynny wedi uno i ffurfio Addysg Oedolion Cymru (AOC). Yn 2012, penododd Coleg Harlech, ar ran AOC, Scene & Word yn geidwaid ar gyfer Y Bont, gyda’r cyfrifoldeb o geisio dod o hyd i gartref newydd i’r cerflun ‘rhywle arall yng Nghymru’.

Wedi’i achub rhag dinistr

Roedd y cytundeb gan AOC i roi cyfrifoldeb i Scene & Word am ddyfodol Y Bont yn cynnwys cronfa i dalu costau symud y cerflun o’r bloc tŵr. Erbyn hyn, roedd hyn yn fater o frys oherwydd roedd cyflwr yr adeilad yn dirywio a’r bygythiad gan fandaliaid yn gyson.

Gyda chyllid gan AOC, roedd modd i ni anfon tîm arbenigol o Brifysgol Fetropolitan Abertawe (a elwir nawr yn Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Yn arwain y tîm roedd yr arbenigwr cadwraeth Alun Adams, cyfarwyddwr Scene & Word. Y cerflunydd Meic Watts oedd ein hymgynghorydd; roedd ef wedi rhannu stiwdio â Jonah rhwng 1988 a 1991 ac yn gyfarwydd â’r dulliau strwythurol a ddefnyddiwyd i greu’r gwaith.

Dros benwythnos y 23ain a’r 24ain o Fehefin 2012, datgymalwyd y cerflun. Cafodd pob rhan ei rhifo yn unol â llun a oedd Alun wedi ei baratoi. Wedyn, fe gludwyd y cerflun, fesul darn, i lawr – â llaw! – i waelod yr adeilad i’w storio tu allan mewn cynhwysydd diogel. Yn ddiweddarach, fe lwythwyd y cerflun ar lori ar gyfer cam olaf ei daith o Harlech i Lanbedr Pont Steffan, lle cafodd ei storio’n ddiogel ar gampws y brifysgol.

‘Y Bont’ a’i chwiorydd…

Rhwng 1968 a 1972, derbyniodd Jonah gomisiynau ar gyfer tri mur-cerflun cyhoeddus mawr wedi’u gwneud o lechi a marmor wedi’u llifio. Mae’r cyntaf yn dal i fod yn rhan weithredol o’r gofod cyhoeddus, dim ond darnau sy’n weddill o’r ail, ac mae’r trydydd wedi diflannu ers amser maith.

Y cyntaf o’i fath, a’r lleiaf o’r tri, oedd mur-cerflun o lechi glas a marmor gwyn ar gyfer Canolfan Cyfiawnder yr Wyddgrug: dau ddarn ar wahân, yn wir, o’r enw Cyfiawnder a Thrugaredd. Mae un yn seiliedig ar darian o lechi sydd wedi’i throi wyneb i waered – arwydd Celtaidd traddodiadol o heddwch – tra bod y llall yn seiliedig ar symbolau Cristnogol amlwg. Cafodd y llysoedd eu hadnewyddu’n llwyr yn 2010, ac adferwyd y cerfluniau i’w statws amlwg blaenorol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn Oriel Jonah Jones.

Yr olaf o’r tri oedd Hedd Dros Wynedd ar gyfer pencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn. Gyda ffurf map steiliedig o Ogledd Cymru wedi’i wneud o lechi a marmor, roedd yn dwyn i gof heddwch bryniau Cymru gyda’u cysgodion cymylau, gan gyferbynnu â’r helyntion yng Ngogledd Iwerddon a welodd Jonah wrth asesu gwaith yng Ngholeg Celf Belfast ar y pryd. Yn 2002, pan oedd pencadlys yr heddlu yn cael ei adnewyddu, dymchwelodd y contractwyr y cerflun cyfan, gan gael gwared ohono heb unrhyw ymgynghori. Unwaith eto, mae rhagor o wybodaeth yn Oriel Jonah Jones.

Rhwng y ddau, Y Bont oedd y fwyaf ac, yn ôl pob tebyg, uchafbwynt gwaith cerflunio cyhoeddus Jonah. Yn y blynyddoedd diweddar, mae llawer o amser ac ymdrech wedi’u rhoi i achub a gwarchod y gwaith pwysig hwn. Mae’n haeddu llawer gwell na chael ei chloi i ffwrdd mewn storfa neu ddioddef tynged y cerflun arall ym Mae Colwyn.

WYDDOCH CHI AM UNRHYW OFOD MEWNOL A ALLAI GYNNIG MUR GWAG (TUA 6.2 m x 2.4 m) I OSOD FERSIWN CWTOGEDIG O Y BONT? …NEU HYD YN OED WAL FWY A ALLAI GYNNWYS MWY O’R CERFLUN GWREIDDIOL?

Ein cyfeiriad e-bost yw contact@sceneandword.org.