Newyddion gan Ffion Pritchard, enillydd Gwobr Jonah Jones 2025

Mae wedi bod yn flwyddyn wych ers i mi ennill Gwobr Jonah Jones ar gyfer artistiaid ifanc a chynnal gweithdai yn Lle Celf Eisteddfod Wrecsam yn 2025. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i arddangos ar draws y byd, o Fangor i Brazil, cydweithio efo mudiadau gwych a chychwyn fy MA mewn Celf, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae gwobrau fel yma yn hynod bwysig i artistiaid buan yn eu gyrfa gael gynyddu proffil a hel profiad, ac rydw i yn werthfawrogol iawn i gael bod yn alumna o’r wobr.

Uchod: enghreifftiau o waith Ffion mewn arddangosfeydd yng Nghymu 2025–26.

Ffion yn arddangos yn llyfrgell symudol ‘The Lovely House’ Sao Paulo, Brazil, mewn cydweithrediad â Ffotogallery, Caerdydd, ym mis Ebrill 2026.