Bellach yn y bedwaredd flwyddyn, bydd Gwobr Jonah Jones unwaith eto yn cefnogi cyfres o weithdai creadigol gan artist yn Y Lle Celf yn Eisteddfod y Garreg Las 2026. Fe fydd yr artist print Marian Haf yn cyflwyno’r gweithdai eleni, gyda’r bwriad o greu gwyddor unigryw gan gyfuno gwahanol lythrennau, gyda gwaith llythrennu Jonah Jones fel ysbrydoliaeth.
Cynhelir y gweithdai ddydd Iau, 6 Awst, am 10.30 i blant ac am 13.30 i oedolion. Bydd archebion ar gyfer y gweithdai ar gael ar Eventbrite wythnos cyn i’r Eisteddfod ddechrau. Cadwch golwg ar dudalen Instagram Y Lle Celf @yllecelf, lle bydd y ddolen ar gael.
Mae Marian Haf ar Instagram a Facebook.

Yr artist print Marian Haf ac enghreifftiau o’i gwaith.

Mae Oer Calon, a ddyluniwyd gan Jonah Jones ar gyfer Gwasg Gregynog, yn un o bedwar enghraifft o’i waith llythrennu a ddewiswyd gan Marian Haf fel ysbrydoliaeth ar gyfer y gweithdai. Y lleill yw Adorare Tacere Godere, Y Neges a Clywais Anadl.
