
Mae fy llif gwaith yn aml yn plethu rhwng yr analog a’r digidol, gan gyfuno a chyfnewid cyfryngau sawl gwaith yn ystod y broses o wneud pob un o fy narnau. Yn aml, dim ond trwy roi pen ar bapur y mae fy syniadau’n dod, yn ôl pob tebyg oherwydd ymarfer llyfr braslunio dwfn a oedd yn sail i’m blwyddyn sylfaen yng Ngholeg Menai. O fan hyn, rwy’n aml yn defnyddio meddalwedd fel Adobe Capture i ddigideiddio fy lluniadau, sy’n creu ffeil ‘fector’ sy’n galluogi i mi eu hehangu’n ddigidol, eu hanimeiddio neu eu gwneud yn rhywbeth newydd. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn treulio llawer o amser mewn ‘Mannau Gwneuthurwyr’ yn arbrofi gyda thechnoleg fel torrwyr finyl a laser ac wedi syrthio mewn cariad â hyn fel ffordd o roi bywyd newydd i’m lluniadau. Yn fy nghofnod blog cyntaf, siaradais am fy nghyflwyniad i ddulliau crefft yn y brifysgol, a’r gwersi ffurfiannol ddaru lywio gwaith digidol, ac arwain at fy narganfyddiad cyntaf o waith Jonah Jones. Gyda hyn mewn golwg, roedd yn ymddangos bod y ‘Man Gwneuthurwr’ yn lle gwych i ddechrau fy arbrofi.

Mae arbrofion diweddar ‘Gofod Gwneuthurwr’ yn cynnwys clawr llyfr newydd ar gyfer ‘zine’ diweddar, wedi’i dorri â laser yn FFIWS Porthmadog. Dechreuodd y dyluniad hwn fel sgribl llyfr braslunio, a gafodd ei sganio gydag Adobe Capture a’i dorri â laser i fewn i bapur.
Er nad oedd archif Scene & Word yn brin o ysbrydoliaeth, allwn i ddim gwrthod dechrau gyda’r darn cyntaf o waith Jonah Jones y syrthiais mewn cariad efo: ei wyddor hyfryd wedi’i llythrennu â llaw. Sganiais y darn gydag Adobe Capture a chefais fector perffaith, glân i weithio ag ef. Dyma fydd un o nifer o ddarnau o waith Jonah Jones y byddwn yn edrych arnynt i gyfeirio atynt yn ystod y gweithdai.

Ysbrydoliaeth cyntaf: ‘Alphabetum Romanum Jonah’.

‘Alphabetum Romanum Jonah’ wedi’i sganio fel fector.
Gyda fy ffeil fector wrthlaw, archebais le yn FFIWS Caernarfon, Gofod Gwneuthurwr newydd gyda llu o offer newydd sgleiniog i arbrofi ag ef a’i fwynhau!
Wrth edrych ar y llythrennu gwreiddiol, mor brydferth, addurnedig ac wedi’i dynnu â llaw, roeddwn i’n chwilfrydig i weld sut y byddai deunydd synthetig a modern, fel finyl, yn gweddu. Yn ogystal, mae torri finyl, mewn ffordd, fel esblygiad y torri llythrennau traddodiadol sydd mor gyffredin yng ngwaith Jonah Jones. Torrodd y darn yn hyfryd ar y torrwr finyl, gan ddarparu llythrennau gwyrdd sgleiniog, manwl, godidog.


Torri a ‘chwynnu’ y feinyl.
Gyda’r llythrennau wedi’u torri, roeddwn i’n barod ar gyfer fy ngham nesaf o arbrofi. Trosglwyddais y llythrennau i asetad a dechreuais fy ymchwil i brosesau fyddai’n ddiddorol ac yn hwyl i gyfranogwyr.

Wedi fy ysbrydoli gan y cyfuniad o ddulliau analog a digidol sy’n sail i’m gwaith, edrychais i mewn i ddulliau ffotograffiaeth analog. Cefais fy ysbrydoli gan natur ‘ar unwaith’ a chyflym y broses cyanoteip: gweithio gyda phapur sy’n sensitif i olau. Daeth fy arbrofion cyntaf allan yn hyfryd er gwaethaf y diwrnod cymylog. Rwy’n caru’r ffordd mae llythrennu Jones yn edrych gyda phalet lliw cyfyngedig hardd y papur sy’n sensitif i olau.


Y broses: rhoddais fy asetad a llythrennau ar bapur sensitif i olau, a’u hamlygu i olau’r haul am ychydig funudau cyn rinsio’r papur mewn dŵr.



Y canlyniadau!
Gyda’r eisteddfod yn agosáu’n gyflym, byddaf yn parhau â’m harbrofi am yr ychydig wythnosau nesaf, gan weld sut y gellir gwthio’r broses ymhellach fyth. Bydd hyn yn cynnwys arbrofi gyda gwahanol brosesau a dulliau, yn ogystal ag astudio corff gwaith amrywiol ac eang Jonah Jones ymhellach i gael ysbrydoliaeth! Edrychaf ymlaen at hwyluso ymgysylltiad cyfranogwyr ag etifeddiaeth Jonah Jones. Gobeithio, gyda fy nghefnogaeth a’m harweiniad, y bydd ei waith yn sbarduno syniadau, dychymyg ac arbrofi i bob person sy’n cymryd rhan – yn union fel y mae wedi gwneud i mi!
Gweithdai
Oedolion:
Dydd Llun 4ydd Awst 13:30
Teuluoedd/plant gyda oedolyn:
Dydd Iau 7fed Awst 12:00
Oedolion:
Dydd Gwener 8fed Awst 14:00
yn Y Lle Celf
