Scene & Word yn darganfod Gwaith gan Jonah Jones yn Swydd Nottingham mewn cyflwr da

Ymwelodd Peter Jones, aelod o Fwrdd Scene & Word, ag Eglwys Gatholig Sant Ioseff y Gweithiwr yn Sutton-in-Ashfield, Swydd Nottingham yn ddiweddar er mwyn arolygu ffigwr o’r sant gan Jonah sy’n sefyll mewn cilfach ar ffasâd gorllewinol yr eglwys. Wedi’i gerfio o garreg Portland, mae’r darn tua 3 troedfedd 4 modfedd (mymryn dros 1 medr) o uchder ac mae’n mewn cyflwr da ar wahan i rywfaint o staenio a achoswyd gan amgylchoedd atmosfferig. Agorwyd yr eglwys ym 1961; E. Bower Norris oedd y pensaer, a bu Jonah yn cydweithio ag ef ar sawl prosiect yn ystod y 1960au.