Crynhoad diweddaraf o ‘weithiau coll’ gan Jonah Jones

Mae’r nodyn GWAITH COLL ar brif dudalen Oriel Jonah Jones yn parhau i ddatgelu trysorau cudd wrth i fwy o gasglwyr gysylltu â ni. Mae pedwar yn rhagor wedi dod i’r fei.

Ysgrifennodd Marc, mab Meirion Edwards, atom am arysgrif dyfrlliw cain (isod) yng nghasgliad ei dad. Yn Lladin a Chymraeg, mae’n debyg gafodd ei beintio gan Jonah yn ystod ei gymrodoriaeth yng Ngregynog yn 1981–82 a gafodd ei brynu gan Meirion Edwards o Oriel Gelf Tegfryn ym Mhorthaethwy. Caewyd yr oriel yn 2019 ar ôl mwy na hanner canrif.

Mae dau fraslun dyfrlliw anghofiedig o ddiwedd gyrfa Jonah yng nghasgliad y teulu wedi dod i’r amlwg yn annisgwyl yn ystod clirio garej. Maent yn dangos Bryn Cader Faner ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Anfonodd Stuart Allen, yr Hanesydd Lleol yn Runcorn, neges atom ar Facebook i ofyn a oedd gennym ffotograff o gerflun cynnar gan Jonah o’r enw The Deposition. Roedd wedi dod o hyd i nodyn bod y cerflun wedi’i wneud yn nhywodfaen Runcorn coch-binc nodedig, a gloddiwyd yn helaeth yn y dref ac o’i chwmpas o ddechrau’r 19eg ganrif hyd at yr Ail Ryfel Byd, a’i fod wedi’i werthu i gasgliad preifat yn UDA. Wrth chwilio ymhlith yr ychydig albymau cynnar o waith gan Jonah sydd wedi goroesi (cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu dwyn mewn byrgleriaeth yn Nulyn ym 1976), daethom o hyd i ffotograff bach du a gwyn, 5 cm x 5 cm, gyda’r nodyn hon: ‘The Deposition, red sandstone, 10 inches, collection Mr Clarence Klein, New York, 1950’. Yn ystod y 1960au, pan oedd gyrfa Jonah wedi’i hen sefydlu, gwerthodd nifer o ddarnau i gasglwyr Americanaidd, ond mae’n debyg mai dyma’r darn cynharaf a werthodd i UDA.

Dyma ddolen i erthygl hynod ddiddorol Stuart Allen ar Facebook:​https://www.facebook.com/stuart.allen.3538/posts/pfbid0FdF1MTvbG3YW2VzVxqz5vqehA9dC6Syr9vCPGMuH4s4CQbQqpKP9DKBojgvXQqURl