
Mae Scene & Word wedi lansio argraff cyhoeddi newydd, Adastra Publishing, a fydd yn delio â gwaith artistiaid byw Cymreig.
Bydd llyfrau gan neu am Jonah Jones yn parhau i gael eu cyhoeddi ar argraff Scene & Word. (Diweddariad: nawr The Cidron Press, ers mis Mai 2025.)
Llyfr cyntaf Adastra Publishing yw Line Red to Space / The Magnitude is Green, hunangofiant darluniadol o’r artist, cerflunydd ac ‘imagineer’ Constructivist, Terry w Scales, sy’n rhannu ei amser rhwng y Mwmbwls a chanolbarth Ffrainc – 336 tudalen, dros 700 o ddelweddau mewn lliw llawn, ISBN 978-0-9564314-2-4.


Lansiwyd y llyfr ar Fawrth 24ain yn agoriad arddangosfa Terry yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, lle cynhaliwyd Arddangosfa Ganmlwyddol Jonah Jones yn 2019.
Mae gwefan Terry ar terrywscales-artwork.com. Mae’r llyfr nawr ar gael trwy’r Siop Jonah Jones.



