Gweithdy Lle Celf a noddir gan Scene & Word ar gyfer artistiaid ifanc yn Eisteddfod 2024

Mae’r Lle Celf yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 wedi rhoi galwad allan am artistiaid ifanc i gynnal gweithdai wedi’u ysbrydoli gan waith Jonah Jones ym meysydd cerfio, llythrennu a darlunio, neu baentio ar wydr, ac mae Scene & Word/Cofio Jonah Jones yn noddi’r gweithdai er cof am Jonah. Fe fydd y gweithdai yn rhan o’r prosiect Gwobr Jonah Jones, cynllun gwobrwyo ar gyfer artistiaid ifanc.